Am
Byngalos hunanarlwyo sydd wedi'u dodrefnu'n llawn ym mhentref Horton. Maent yn ddelfrydol ar gyfer pobl sydd am fwynhau'r hyn sydd gan benrhyn Gŵyr i'w gynnig.
Mae Bank Farm, sy'n cynnwys 16 o fyngalos hunanarlwyo, yn croesawu teuluoedd neu barau sydd am fwynhau'r hyn sydd gan Benrhyn Gŵyr i'w gynnig. Mae ein byngalos ym mhentref Horton wedi'u dodrefnu'n llawn ac yn cynnig llety i 4 neu 5 o bobl o fis Mawrth i fis Ionawr.
Mae ein byngalos yn cynnwys cegin â'r holl gyfarpar a lolfa/man bwyta cynllun agored, ystafell ymolchi a dwy ystafell wely. Mae gan yr holl fyngalos wresogyddion ar y waliau ar gyfer misoedd oerach y tymor. Mae'r lolfa a'r man bwyta'n cynnig ystafell eang lle gellir ymlacio â theledu lliw a chwaraewr DVDs. Gyda'u mynediad preifat eu hunain, mannau parcio dynodedig, o fewn 2 funud i'w gilydd a 5 munud i'r prif gyfleusterau ar droed, mae'r byngalos hyn yn cynnig lleoliad gwych i dreulio eich gwyliau.
Mae ein byngalo hwylus i bobl anabl yn cynnig amrywiaeth eang o addasiadau. Ystyriwyd pobl â nam ar y golwg wrth iddo gael ei ddylunio a cheir lliwiau cyferbyniol drwy'r eiddo; gyda'i fynediad gwastad a'i ystafell gawod sydd wedi'i haddasu ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn, mae'r byngalo'n diwallu pob angen. Hefyd, rydym yn cynnig sawl byngalo sy'n derbyn anifeiliaid anwes a rhai lle na chaniateir anifeiliaid anwes.
Mae Bank Farm yn cynnig cyfleusterau i bobl o bob oedran. Mae'r Clubhouse, sy'n cynnig Wi-Fi am ddim, Sky TV a bar sydd wedi'i drwyddedu, yn edrych dros Borth Einon a Bae Horton. Mae bwyd yn cael ei weini bob dydd gyda detholiad o brydau a byrbrydau sy'n darparu ar gyfer y teulu cyfan. Gall gwesteion Bank Farm ddefnyddio'r pwll cynnes sy'n cael ei warchod gan do ôl-dynadwy neu achub ar y cyfle i logi'r cwrt tenis maint llawn. Ar gyfer y plant, mae gennym le chwarae antur awyr agored. Gall ein siop fach a'n golchdy ar y safle ddiwallu eich holl anghenion hanfodol.
Cyfleusterau
Arall
- Adloniant rheolaidd gyda'r nos
- Bwyty/Caffi ar y Safle
- Cawodydd ar y safle
- Croesewir partïon ysgol
- Darperir dillad gwely
- Dillad gwely ar gael i'w llogi
- Food shop/mobile food shop on-site
- Nwy ar gael
- Parcio preifat
- Peiriannau golchi ar gael ar y safle
- Pryd gyda'r nos ar gael / caffi neu fwyty ar y safle
- Pwll nofio ar y safle
- Rhyngrwyd di-wifr
- Sefydliad hollol ddi-ysmygu
- Seibiannau byr ar gael
- Teledu yn yr ystafell wely/uned
- Toiledau ar y safle
- Trwyddedig
- Ystafell wely/uned ar y llawr gwaelod
Arlwyo
- Bwyty ar y safle
- Siop fwyd
Cyfleusterau Darparwr
- Adloniant rheolaidd gyda'r nos
- Croeso i Anifeiliaid Anwes
- Darperir dillad gwely
- Dillad gwely ar gael am ddim
- Ffôn cyhoeddus
- Gardd/patio at ddefnydd y gwesteion
- Pets accepted by arrangement
- Tŷ Golchi
- Wifi ar gael
Cyfleusterau Hamdden
- Cwrt tennis
- Pwll nofio
- Pwll nofio dan do
- Twb poeth
Dulliau Talu
- Derbynnir cardiau credyd
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
- Croesewir partïon ysgol
- Fferm
- Gwyliau penwythnos ar gael
- Trwyddedig
Nodweddion Ystafell/Uned
- Cot
- Cyfleusterau smwddio ym mhob uned
- Cyfleusterau te a choffi ym mhob ystafell wely
- Microdon ym mhob uned
- Rhewgell ym mhob uned
- Teledu lliw ym mhob uned
- Teledu lliw ym mhob ystafell wely
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Cyfeillgar i Deuluoedd
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Dyraniadau ystafell/uned ar gael
- Wi-fi ar gael








