Am
Preifatrwydd ffasiynol ochr yn ochr â mynediad hawdd at fawredd penrhyn Gŵyr. Dewch i ymlacio, lleihau straen a mwynhau awyrgylch gwledig Blaen Cedi.
Mae Blaen Cedi yn darparu’r holl amwynderau modern i'ch galluogi i ymlacio'n gyfforddus, gan gynnwys twba twym sy'n cynnig golygfeydd trawiadol. Mae'r ystafelloedd wedi cael eu dodrefnu'n ofalus i ddarparu moethusrwydd unigryw sy'n gwneud iddynt deimlo'n arbennig ac yn sicr yn gofiadwy.
Ceir mynediad i'r tiroedd drwy gât drydanol ddiogel ac mae'r bythynnod wedi'u cuddio ar ddiwedd lôn ddeiliog fer.
Dewch i ymlacio, lleihau straen a mwynhau awyrgylch gwledig Blaen Cedi. Profwch heddwch, llonyddwch, cysur a moethusrwydd. Mwynhewch awyrgylch preifatrwydd gwledig.
Mae gennym bedwar eiddo unigryw ac mae ganddynt i gyd geginau ac ystafelloedd ymolchi llawn cyfarpar. Darperir llieiniau a thywelion.
Mae’r oriel yn ysgogi ymdeimlad rhamantaidd sy’n boblogaidd gyda pharau ar eu mis mêl. Adeiladwyd yr oriel hardd o bren wedi'i adfer o gapel lleol a'i saernïo’n ofalus i greu awyrgylch arbennig. Mae gwely trawiadol o fawr a golygfeydd hyfryd. Lle i 2-4 unigolyn.
Mae encilfa'r stabl yn arbennig o fawr a chyfforddus ac mae ganddi olwg gartrefol. Mae'n berffaith i ymlacio ynddi ac mae’n agor ar y patio a'r gerddi. Mae'n hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae wedi cael ei haddasu'n fewnol, a hynny’n ofalus. Lle i 2-4 unigolyn.
Mae'r caban ar wahân i'r bythynnod ac mae'n breifat ac yn wladaidd, gan gynnwys ei erddi a'i feranda ei hun. Mae'n darparu’r holl amwynderau modern. Mae'n wych ar gyfer teuluoedd neu'r rhai hynny sy'n dwlu ar natur ac sydd am fod yn agos at fywyd gwyllt. Lle i 4-5 unigolyn.
Mae'r bwthyn yn fawr ac mae ganddo ddwy ystafell wely, gwely dwbl a gwelyau bync. Mae'n cynnig mynediad uniongyrchol i'r feranda a golygfeydd dros Gasllwchwr. Mae hefyd ar gau i'r twba twym.
Rydym mewn lleoliad sy’n darparu preifatrwydd pleserus, ond heb fod yn anghysbell. Dyma le perffaith i archwilio penrhyn Gŵyr yn ei gyfanrwydd.
Mae ein teulu, gan gynnwys plant ifanc, yn byw ar yr eiddo. Byddwn yno i ateb ymholiadau a chynnig cymorth ac arweiniad ynghylch atyniadau a gweithgareddau lleol yn ystod eich arhosiad. Rydym yn dwlu ar yr awyr agored ac anturiaethau bach a byddwn yn hapus i rannu'r rhain.
Pris a Awgrymir
Cyfanswm yr unedau 4
Cysgu (isafswm) 1
Cysgu (uchafswm) 17
Prisiau (yr uned yr wythnos) o 600.00
Cyfleusterau
Arall
- Bed linen provided
- Children's play area
- Ground floor bedroom/unit
- Gwres canolog
- Parcio preifat
- Pecyn Nadolig/ Blwyddyn Newydd Arbennig
- Pets accepted by arrangement
- Short breaks available
- Showers on site
- Tea/Coffee making facilities in bedrooms
- Toilets on-site
- Totally non-smoking establishment
- TV in bedroom/unit
- Washing machines available on-site
Cyfleusterau Darparwyr
- Caniateir anifeiliaid anwes
- Children's facilities available
- Darperir dillad gwely
- Dillad gwely ar gael am ddim
- Gardd/patio at ddefnydd y gwesteion
- Tŷ Golchi
- Wifi ar gael
Cyfleusterau Hamdden
- Hot Tub
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
- Fferm
- Yn y wlad
Nodweddion Ystafell/Uned
- Cadair uchel
- Cot
- Derbynnir Anifeiliaid Anwes
- Fridge / Freezer
- Oven / Cooker
- Ystafelloedd gwely llawr gwaelod ar gael
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Croesewir plant
- Cyfleusterau i blant
- Family Friendly
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Season
- Pecyn Nadolig/ Blwyddyn Newydd Arbennig
Sustainability
- Eco Friendly
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael