Am
Cartref gwledig Cymreig croesawgar iawn
Mae Brynawel Farm yn gartref gwledig yng nghanol gerddi mawr. Mae'n cynnig golygfeydd godidog dros forlin gogledd Gŵyr. Mae'n addas i deuluoedd ac anifeiliaid anwes. Gellir trefnu'r ystafelloedd i gynnig dau wely sengl neu un gwely mawr. Mae'n bosib i'r ystafell i deuluoedd gynnwys gwely dwbl a dau wely sengl. Mae ein brecwast heb ei ail ac mae'n llawn cynhwysion lleol, gan gynnwys bacwn trwchus iawn. Rydym yn darparu bwyd heb glwten a bwyd llysieuol ar gais. Mae llawer o le i barcio'n ddiogel oddi ar y ffordd a digon o fariau a bwytai lleol. Er ei fod yn wledig, mae ein lleoliad yn gyfleus a gellir ei gyrraedd o fewn llai na 10 munud o gyffordd 47 yr M4. Cwsmeriaid yw ein gwesteion wrth gyrraedd; ffrindiau ydyn nhw wrth adael! Edrychwn ymlaen at eich croesawu!
Mae pris ystafell yn dechrau o £55 i un person ac £85 i ddau berson sy'n rhannu.
Cyfleusterau
Arall
- Parcio preifat
- Pets accepted by arrangement
- Tea/Coffee making facilities in bedrooms
- TV in bedroom/unit
Cyfleusterau Darparwyr
- Cyfleusterau addas i blant
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Nodweddion Ystafell/Uned
- Sychwr gwallt ym mhob ystafell wely
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Cyfleusterau i blant
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael