Ceiliog Bach exterior view and entrance

Am

Bwthyn unigryw yn Llangynydd sy'n agos i ffermdy wrth ochr bryn mewn lleoliad godidog, gan gynnig golygfeydd ysgubol dros Fae Rhosili a Bae Brychdyn. 

Gall hyd at wyth person gysgu yn y bwthyn unigryw hwn. Mae'n hawdd cyrraedd llawer o draethau, felly mae'n berffaith ar gyfer teuluoedd ar wyliau.
Mae'r eiddo mewn ardal dawel ar arfordir Gŵyr ac mae'n cynnig golygfeydd ysgubol o'r môr o bob cyfeiriad; nid oes modd eu credu heb eu gweld. Mae llwybr troed yn arwain i Fae Brychdyn a gellir cyrraedd traeth Hillend yn gyflym yn y car neu ar gerdded. Mae'r holl forlin yn llawn traethau hardd a phentrefi anghyffredin.


Mae Llangynydd yn bentref bach sy'n meddu ar ddau fan bwyta, yn ogystal â thafarn sy'n addas i deuluoedd o fewn 10 munud ar gerdded. Yn ogystal, mae gan y pentref siop syrffio a neuadd blwyf sy'n cynnal digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd i drigolion lleol a phobl ar wyliau, gan gynnwys campfa. O fewn milltir neu ddwy cewch gyfle i flasu teisennau cartref a chael coffi yn siop gymunedol Llanmadog. Mae gan Lanmadog dafarn a neuadd bentref sy'n cynnal digwyddiadau cymunedol rheolaidd. Ymhellach i ffwrdd, mae pentrefi cyfagos yn cynnig rhagor o dafarnau a chaffis i ymweld â nhw. Ym Mhen-clawdd, ceir caffi o'r enw Cariad a pharlwr hufen iâ o'r enw GG's, yn ogystal â thafarnau ac archfarchnad fach.
Er bod Llangynydd yn adnabyddus fel prif fan syrffio Gŵyr, lle mae sawl ysgol syrffio'n gweithredu yn ystod yr haf, mae llawer o weithgareddau eraill ar gael i'r rhai hynny sy'n chwilio am hoe actif. Mae'r rhain yn cynnwys marchogaeth, barcuta, beicio, bordhwylio a hwylio, i enwi ychydig yn unig. 


Mae'r bwthyn yn destun trafod unigryw oherwydd ei addurniadau mewnol a gafodd eu dylunio a'u saernïo â llaw gan y perchnogion. Mae cegin osod fodern ac ystafell fyw cynllun agored yn cynnig golygfeydd dros yr ardd tuag at y môr. Ceir yr holl gyfarpar y bydd ei angen arnoch yn ystod eich arhosiad, ynghyd â man byw agored a golau sy'n berffaith ar gyfer ciniawa, nosweithiau gemau neu ymlacio o flaen y teledu. Mae drysau'n arwain at ardd laswelltog hyfryd lle gallwch eistedd a mwynhau'r golygfeydd godidog.


Mae'r ystafell ymolchi hardd ar y llawr gwaelod, ochr yn ochr â'r brif ystafell wely, ac mae ganddi gawod fodern y gellir cerdded i mewn iddi. Mae'r brif ystafell wely'n berffaith ar gyfer oedolion, gan roi cyfle iddynt ymlacio mewn moethusrwydd, gan gynnwys dwy gadair esmwyth, teledu a llosgwr pren. Ar y llawr cyntaf ceir dwy ystafell wely arall. Mae un ohonynt yn meddu ar wely dwbl clyd a adeiladwyd at y diben ac mae gan y llall bedwar gwely bync gosod pwrpasol sy'n addas i blant neu oedolion.


Mae modd cerdded i lawer o leoedd o'r eiddo. Mae Bae Brychdyn 10 munud i ffwrdd ar gerdded i lawr y bryn. Gellir cerdded i Lanmadog dros y bryn y tu ôl i'r bwthyn neu ar hyd y traeth sy'n cysylltu â Chwm Iorwg. Mae Cwm Iorwg yn cynnwys coed pinwydd hudol dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n amgylchynu traeth a moryd anghysbell, ac mae’n boblogaidd gydag adarwyr a cherddwyr. Mae Cwm Iorwg hefyd yn cynnwys caffi hyfryd ar lwybr i Lanmadog. Mae traeth Hillend, sy'n enwog am syrffio a nofio, oddeutu milltir i ffwrdd a gellir ei gyrraedd ymhen pum munud yn y car neu ugain munud ar gerdded. Oddi yma, gallwch gerdded ar hyd y traeth i Fae Rosili a Phen Pyrod.

Pris a Awgrymir

Cyfanswm yr ystafelloedd 3
Prices (B&B per room, assuming twin/double occupancy) from £0.00

Cyfleusterau

Arall

  • Short breaks available
  • Totally non-smoking establishment
  • TV in bedroom/unit
  • Washing machines available on-site

Cyfleusterau Darparwyr

  • Darperir dillad gwely

Nodweddion Ystafell/Uned

  • Cot
  • Derbynnir Anifeiliaid Anwes
  • Fridge / Freezer
  • Oven / Cooker

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Parcio ar y safle

Plant a Babanod

  • Yn derbyn plant (isafswm oedran)

Teithio a Masnachu

  • Wi-fi ar gael

Map a Chyfarwyddiadau

Ceiliog Bach

Ty'r Celiog, Cock Street, Llangennith, Swansea, SA3 1JE

Ffôn: 01792386249

Amseroedd Agor

Diwrnodau agor 2025 (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder