Am
Mae'r llety sydd mewn ardal a adwaenir fel 'Gŵyr y bryniau' yn berffaith i gerddwyr, ac mae John Gilham yn ein hargymell yn ei lyfr 'Snowdon to the Gower'. O gât y fferm gallwch gael mynediad yn syth i dros 12 milltir o dir comin agored, glaswelltog. Byd i chi eich hun. Mae'r parc fferm yn llawn pethau diddorol i westeion. Anifeiliaid bridiau prin, emiwiaid, alpacaod a llawer o anifeiliaid cyfeillgar eraill i'r rheini sydd am eu gweld.
Mae 'Barn Cottage' yn ysgubor 400 o flynyddoedd oed sydd wedi'i haddasu'n fwthyn eang 3 ystafell wely llawn cymeriad. Lle tân cil pentan gyda thanau boncyffion, 3 ystafell wely, 2 ystafell ymolchi, un en-suite. Mae gan y bwthyn ardd hyfryd gyda dau deras a golygfeydd trawiadol o'r tŷ.
Mae tŷ llety Coynant yn cynnig ystafelloedd en-suite mewn ystafell ddwbl hunangynhwysol mewn ffermdy o'r 16eg ganrif.
Mae 'Snow White’s House' yn fwthyn deniadol, dwy ystafell wely sy’n seiliedig ar fwthyn y cymeriad Eira Wen o ffilm Disney. Yn llawn cymeriad ac yn llawer o hwyl. Trawstiau isel, tân boncyffion, cloc cwcw, cloc wyth niwrnod, ceiliog y gwynt sy’n dangos gwrach ar ysgubell, a thylluan mewn coeden. Mae ganddo gegin ac ystafell ymolchi fodern.
Mae 'The Nook' yn fflat stiwdio i 2 berson gyda gwely dwbl, twba twym, cegin ac ystafell wely fodern. Mae gan 'The Nook' gromen fawr dryloyw gyda seddi i 2 berson.
Mae 'The Pines Cabin' yn gaban cysurus i ddau. Dyma’n huned hunanarlwyo rataf. Mae'r caban yn ardal yr iard y tu ôl i'n bythynnod gwyliau ac mae'r ffenestr Ffrengig yn edrych allan ar y rhain. Mae ffenestr yr ystafell wely’n edrych allan ar y fferm a'r bryniau.
Pris a Awgrymir
Cyfanswm yr ystafelloedd 3
Prices (B&B per room, assuming twin/double occupancy) from £80.00
Cyfleusterau
Arall
- Parcio preifat
- Short breaks available
- Tea/Coffee making facilities in bedrooms
- Totally non-smoking establishment
- TV in bedroom/unit
Cyfleusterau Hamdden
- Hot Tub
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Nodweddion Ystafell/Uned
- Sychwr gwallt ym mhob ystafell wely
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael