Am
Bythynnod Cwmbach yw rhai o'r lleoedd mwyaf heddychol i aros ynddynt yn ne Cymru, un filltir yn unig o dref Castell-nedd.
Mae gan y gwesty ardd ddec gyda phyllau pysgod yn ogystal â lolfa i westeion. Gallwch gerdded i Raeadr Aberdulais o'r gwesty hefyd drwy'r parc gwledig. Mae gennym storfa ddiogel ar gyfer beiciau gyda chyfleusterau golchi, tafarn o safon i lawr yr heol sy'n gweini bwyd gwych. Os ydych chi'n dwlu ar y traeth, mae Aberafan, ein traeth agosaf, bum milltir i ffwrdd, neu gallwch gyrraedd rhannau o benrhyn Gŵyr mewn hanner awr. Gallwch gyrraedd Bannau Brycheiniog a Chaerdydd mewn 40 munud ac mae cyffordd 43 yr M4 4 milltir i ffwrdd.
Mae pum ystafell â chyfleusterau en-suite: dwy ystafell wely ddwbl, un ystafell wely driphlyg, un ystafell deulu, un ystafell wely ddwbl ar y llawr gwaelod sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn gyda mynediad i'r ystafell fwyta.
Mae lle parcio preifat oddi ar y ffordd ar gyfer hyd at 6 car, mae hefyd gennym faes parcio gorlif ar y safle. Mae gennym hefyd storfa ar gyfer beiciau mynydd.
Pris a Awgrymir
Cyfanswm yr ystafelloedd 5
Prices (B&B per room, assuming twin/double occupancy) from £70.00
Cyfleusterau
Arall
- Parcio preifat
- Short breaks available
- Tea/Coffee making facilities in bedrooms
- Totally non-smoking establishment
- TV in bedroom/unit
- Wireless internet
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
- Mynediad wedi'i wella ar gyfer ymwelwyr ag anawsterau symudedd
Nodweddion Ystafell/Uned
- Sychwr gwallt ym mhob ystafell wely
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael