Am
Llety yn y coed yn nhiroedd Gwesty Cwmbach, tua milltir o ganol tref Castell-nedd.
Rydym un filltir o ganol tref Castell-nedd y mae hanner milltir ohoni i fyny lôn wledig, ychydig cyn y clwb golff a ger parc gwledig. Gellir cerdded i raeadr enwog Aberdulais o fan hyn, drwy'r parc gwledig. Traethau - yr agosaf yw traeth Aberafan, tua phum milltir i ffwrdd neu ardal hyfryd Gŵyr, y gall gymryd o hanner awr i'w chyrraedd, gan ddibynnu pa ran rydych yn ymweld â hi.
Mae Bannau Brycheiniog a Chaerdydd 40 munud i ffwrdd ac rydym tua 4 milltir o'r M4.
Mae pob llety'n cynnwys cyfarpar o safon uchel ac wedi'i ddodrefnu'n gysurus.
Mae ganddynt leoedd parcio i bedwar car ac mae lleoedd preifat ychwanegol gerllaw'r eiddo.
Mae golchdy, man gwybodaeth i dwristiaid ac ardal ar gyfer eich esgidiau a'ch offer cerdded ar ôl i chi gerdded y milltiroedd lawer o lwybrau troed sy'n dechrau 100m yn unig i ffwrdd.
Llety (1) Tair ystafell wely; dwy ddwbl ac un â phâr o welyau; y tair ystafell yn rhai en-suite. Cegin â'r holl gyfarpar, ystafell fwyta, lolfa â ffenestri patio sy'n arwain allan i ardal ddec uchel a gardd breifat sy'n edrych dros y coetiroedd.
Llety (2) Un ystafell en-suite â phâr o welyau; cegin â'r holl gyfarpar/ardal fwyta. Mae'r lolfa â drysau patio'n arwain i ardal ddec breifat sy'n edrych dros y coetiroedd. Mae Lletyau Cwmbach Cottages yn darparu'r ateb delfrydol ar gyfer y rhai sy'n dwlu ar wyliau hunanarlwyo.
Mae Llety (3) yn cynnwys ystafell wely ddwbl fawr, lolfa fawr, cegin â'r holl gyfarpar ac ystafell wlyb/gawod. Mae'r ystafell wely a'r lolfa'n arwain i ardal ddec breifat sy'n edrych dros Gwm Nedd.
Mae'r holl ddillad gwely, tywelion a llieiniau sychu llestri wedi'u cynnwys - pob ystafell yn un en-suite.
Pris a Awgrymir
Cyfanswm yr unedau 3
Cysgu (isafswm) 2
Cysgu (uchafswm) 6
Prisiau (yr uned yr wythnos) o 300.00
Cyfleusterau
Arall
- Parcio preifat
- Short breaks available
- Tea/Coffee making facilities in bedrooms
- Totally non-smoking establishment
- TV in bedroom/unit
- Washing machines available on-site
Cyfleusterau Darparwyr
- Darperir dillad gwely
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Mynediad wedi'i wella ar gyfer ymwelwyr ag anawsterau symudedd
Nodweddion Ystafell/Uned
- Cot
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael