Am
Boed hynny'n syrffio, yn ddringo creigiau, yn gaiacio, yn feicio mynydd neu'n ddianc am ychydig er mwyn ymlacio a mwynhau'r golygfeydd, mae gennym rywbeth at ddant pawb yn Llety i Grwpiau yng Nghanolfannau Gweithgareddau Gŵyr (Partner yr YHA) . Mae'n bryd treulio amser yng Ngŵyr!
Mae'n bryd treulio amser yng Ngŵyr! Mae ein canolfan gweithgareddau ym Mhorth Einon yn darparu llety gwych ar gyfer profi'r holl bethau sydd gan Gŵyr i'w cynnig, heb sôn am y golygfeydd y mae'n rhaid eu gweld er mwyn eu credu. Rydym wedi bod yn darparu gweithgareddau, digwyddiadau ac addysg am dros 40 mlynedd, ac rydym yn ymfalchïo yn y profiadau a'r atgofion rydym yn helpu i'w creu. Boed hynny'n syrffio, yn ddringo creigiau, yn gaiacio, yn feicio mynydd neu'n ddianc am ychydig er mwyn ymlacio a mwynhau'r golygfeydd, mae gennym rywbeth at ddant pawb. Rydym yn gweithio gydag ysgolion a cholegau i ddarparu rhaglenni preswyl sy’n para am wythnos neu am ran o wythnos, yn ogystal â chreu gwyliau gweithgareddau wedi'u teilwra i grwpiau, teuluoedd, ac unrhyw un sydd am brofi ein Hardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Llety i grwpiau'n unig. Pob pryd bwyd/rhai prydau bwyd ar gael hefyd Darperir yr holl ddillad gwely.
Tŷ'r Borfa, (Porth Einon):
Lleolir Tŷ'r Borfa yn y twyni ar draeth Porth Einon ac mae'n ganolfan wych ar gyfer archwilio'r ardal amgylchynol. Mae lle i 39 o bobl gysgu yn y tŷ, ac mae'r cyfleusterau cynnwys ystafell amlweithgaredd fawr, ystafell golchi dillad, ystafell sychu, offer TG, gardd fawr, meinciau picnic a barbeciw Gradd 3* ar Croeso Cymru: Llety gweithgareddau
Canolfan ragorol ar Benrhyn Gŵyr yn agos i un o draethau syrffio mwyaf adnabyddus Gŵyr.
Cyfleusterau
Arall
- Parcio preifat
- Sefydliad hollol ddi-ysmygu
- Seibiannau byr ar gael
- Teledu yn yr ystafell wely/uned
Cyfleusterau Darparwr
- Darperir dillad gwely
- Gardd/patio at ddefnydd y gwesteion
- Tŷ Golchi
Cyfleusterau Hamdden
- Ystafell Gemau
Dulliau Talu
- Derbynnir cardiau credyd
- Derbynnir Visa
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Cyfeillgar i Deuluoedd
3




