Am
Mae gan Gower Coast Holiday Homes 2 eiddo trawiadol sydd ar gael i'w rhentu 365 niwrnod y flwyddyn. Byngalo hyfryd sydd â lle i 6 o bobl yn Llandeilo Ferwallt, de Gŵyr. Un eiddo mawr, uwchraddol sydd â lle i 10 o bobl, gyda golygfeydd panoramig di-dor o foryd Llwchwr, 10 munud i fwrdd yn y car o leoliad priodas Oldwalls.
Yn Gower Coast Holiday Homes rydym yn sicrhau bod pob un o'n cartrefi mor groesawgar a chyfforddus â phosib. Rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod eich arhosiad yn ymlaciol, heb unrhyw straen. Rydym yn deall pa mor bwysig yw gallu dod ag anifail anwes ar wyliau, a dyna pam rydym wedi sicrhau bod ein cartrefi yn addas i gŵn.
Mae penrhyn Gŵyr yn ardal o harddwch naturiol eithriadol ac mae ein cartrefi gwyliau mewn lleoliadau perffaith er mwyn i chi allu mwynhau'r holl hyfrydwch sydd gan yr ardal o harddwch naturiol eithriadol i'w gynnig.
Mae gennym fyngalo hardd sydd newydd ei adnewyddu ac sydd â lle i 6 o bobl mewn 3 ystafell ddwbl maint braf. Mae'r byngalo o fewn tafliad carreg i fae godidog Caswell a dim ond 5 munud i ffwrdd yn y car o bentref bywiog y Mwmbwls.
Mae digon o le i 10 person gysgu yn ein heiddo mwyaf. Mae hyn yn cynnwys un ystafell wely â dau wely sengl ar y llawr gwaelod, dau wely mawr iawn a dau wely dwbl ar y llawr cyntaf, un ystafell wely â chyfleusterau ensuite. Mae'r tŷ'n edrych dros foryd Llwchwr yng ngogledd Gŵyr.Mae ganddo olygfeydd panoramig, heb eu hail o'r foryd. Mae'r eiddo hwn 10 munud i ffwrdd yn y car o leoliadau priodas poblogaidd tu hwnt Oldwalls a Fairyhill. Dynodiad - llety hunanarlwyo
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 2
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
1 Greenacres, Penclawdd | £315.00 fesul uned y noson |
Fyngalo ‘Gorgeous Gower’. | £175.00 fesul uned y noson |
*Fel canllaw, rhoddir prisiau fesul ystafell fesul noson ar gyfer gwestai, gwestai bach, gwely a brecwast, fflatiau â gwasanaeth a fesul wythnos am lety hunanddarpar.
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Cyfleusterau
Arall
- Parcio preifat
- Pets accepted by arrangement
- Short breaks available
- Totally non-smoking establishment
- TV in bedroom/unit
Cyfleusterau Darparwyr
- Tŷ Golchi
- Wifi ar gael
Nodweddion Ystafell/Uned
- Cot
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Family Friendly
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)