Am
Tŷ Bynciau Hardingsdwn - llety cyfforddus a fforddiadwy i unigolion, teuluoedd a grwpiau ar fferm organig weithredol yng nghanol bro Gŵyr.
Mae Tŷ Bynciau Hardingsdown yn lleoliad perffaith ar gyfer amrywiaeth o wyliau ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae'r tŷ bynciau ar Fferm Lower Hardingsdown, oddeutu pymtheg milltir o Abertawe ac mae mewn lleoliad delfrydol i chi fanteisio ar olygfeydd, traethau, llwybrau cerdded a cheffyl yr ardal hardd hon.
Ysgubor garreg wedi'i hadfer yn chwaethus ac yn fodern yw'r tŷ bynciau ar fferm organig weithredol.
Gall hyd at 14 o bobl gysgu'n gyfforddus yn y tŷ bynciau. Mae pedair ystafell wely â lle i 12 o bobl a dau wely cadair yn yr ystafell fyw sy'n creu 14 gwely. Mae un ystafell wely ag un gwely bync ar y llawr gwaelod, ac ar y llawr cyntaf mae ystafell wely ag un gwely bync, ystafell wely â gwely bync a gwely sengl ac ystafell wely a phum gwely sengl. Mae ystafell gawod ar y llawr cyntaf gyda thoiled a basn.
Mae ystafell fyw glyd ar y llawr gwaelod yn ogystal â chegin gyda dwy oergell, cwcer â chwe chylch, sinc dwbl, yr holl lestri angenrheidiol, cyllyll a ffyrc, sosbenni a phadellau. Mae dwy ystafell gawod â thoiled a basn ar y llawr gwaelod hefyd.
Mae'r tŷ bynciau wedi'i wresogi trwyddo gyda phwmp gwres ffynhonnell ddaear sy'n ei wneud yn gynnes ac yn glyd ar nosweithiau oer y gaeaf!
Y tu allan mae digon o le i barcio ceir a phatio sy'n berffaith ar gyfer barbeciwiau. Mae ystafell sychu ar wahân hefyd a lle dan glo i storio unrhyw gyfarpar awyr agored yn ogystal â thap allanol i olchi eich offer.
Rhannu ystafell... lle rydych yn talu am eich gwely am y noson ac yna'n rhannu'r cyfleusterau (h.y. y gegin, yr ystafell fyw a'r ystafelloedd ymolchi) â phobl eraill sy'n aros yno.
Llogi'r llety cyfan... lle rydych yn llogi'r tŷ bynciau cyfan at eich defnydd unigol chi. l
Pris a Awgrymir
Cyfanswm yr unedau 1
Cysgu (isafswm) 2
Cysgu (uchafswm) 12
Cyfleusterau
Arall
- Parcio preifat
- Pets accepted by arrangement
- Short breaks available
- Totally non-smoking establishment
- TV in bedroom/unit
- Washing machines available on-site
Cyfleusterau Darparwyr
- Dillad gwely ar gael i'w llogi
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael