Am
Hillside Glamping Holidays yw'r lle perffaith i ddianc o fywyd pob dydd a mwynhau amser hamddenol gyda'r teulu yn un o’n pedair pabell saffari syfrdanol. Mae lle i 6 pherson ym mhob pabell a bydd gennych eich twba twym preifat eich hun felly byddwch yn siŵr o gael amser gwych. Gallwch fwynhau golygfeydd godidog a phenrhyn Gŵyr ar garreg eich drws.
Mae ein pebyll saffari yn cynnwys popeth y bydd ei angen arnoch i fwynhau gwyliau hunanarlwyo. Mae lle i 6 pherson gysgu mewn gwelyau go iawn, sy'n cynnwys un gwely dwbl, 2 wely sengl a gwely dwbl mewn cwpwrdd, y bydd y plant yn dwlu arno. Mae cegin, ystafell ymolchi i'r teulu, lolfa, ardal fwyta, stôf llosgi pren a system gwresogi trydan drwy'r babell. Ewch gam ymhellach drwy archebu un o'n pebyll sy'n cynnwys twba twym a gallwch fwynhau eich twba twym preifat eich hun sy'n cael ei wresogi drwy dân coed. Eisteddwch ar eich feranda eich hun, ymlaciwch a mwynhewch yr olygfa wrth i'r plant fwynhau chwarae gemau yn yr awyr agored.
Os ydych yn chwilio am seibiant tawel gyda ffrindiau neu deulu, Hillside Glamping Holidays yw'r lleoliad perffaith i chi.
Pris a Awgrymir
Cyfanswm yr ystafelloedd 4
Cyfleusterau
Arall
- Pets accepted by arrangement
- Short breaks available
- Totally non-smoking establishment
Cyfleusterau Hamdden
- Hot Tub
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
Nodweddion Ystafell/Uned
- Cot
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)