Am
Mae Panoramic Camping and Glamping, sydd ar dir fferm âr, gwartheg cig eidion a defaid, yn cynnig 15 llain eang mewn dôl chwe erw. Mae'r maes gwersylla mewn lle cyfleus ond tawel. Gellir cyrraedd yr M4 yn hawdd oddi yno, gan olygu ei bod yn hawdd cynllunio teithiau undydd. Mae gennym draethau hardd, llwybrau troed a llwybrau arfordirol i'w harchwilio.
Mae ein maes gwersylla mewn cae, gyda golygfeydd eang o'r ardal wledig o'n cwmpas. Rydym 5 munud i ffwrdd yn unig o'r M4, 30 munud o fro Gŵyr, y Mwmbwls a Sir Gaerfyrddin ac awr o Sir Benfro a Bannau Brycheiniog. Mae hyn yn golygu bod ein maes gwersylla mewn man delfrydol i gynllunio diwrnodau allan.
Rydym yn croesawu pebyll, ond mae gennym hefyd dair pabell gloch ac 1 babell saffari i'r rheini sydd am gael profiad gwersylla moethus. Mae digon o le ar ein lleiniau a phreifatrwydd i ymlacio a mwynhau'r ardal o'ch cwmpas. Mae pob pabell gloch yn cynnwys cysgodfa goginio a thân gwersyll a cheir bloc toiledau a chawodydd a rennir.
Pris a Awgrymir
Nifer y lleiniau i bebyll 10
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Cawodydd
- Darperir dillad gwely
- Gwasanaeth prynu/cyfnewid Calor/nwy gwersylla
- Toiledau cyhoeddus
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)