Am
Mae Bank Farm ym mhentref Horton, yn darparu lleiniau glaswellt a llawr caled.
Mae Bank Farm, lle ceir 180 o leiniau ar gyfer pebyll, cerbydau cartref a charafanau, yn cynnig croeso cynnes i deuluoedd neu gyplau sydd am fwynhau'r hyn sydd gan Benrhyn Gŵyr i'w gynnig. Mae Bank Farm ym mhentref Horton, yn darparu lleiniau glaswellt a llawr caled, gyda neu heb gyflenwad trydan o 1 Mawrth 2024 i 5 Ionawr 2025
Yn Bank Farm, mae bloc toiledau a chawodydd mewn man canolog. Cafodd ei adnewyddu'n llawn ar ddechrau 2016 ac mae'n cynnwys ystafelloedd i blant a rhieni. Mae ardal golchi llestri gyda dŵr twym am ddim ar gael ar un ochr o'r cyfleusterau toiled/cawod a cheir man gwaredu toiledau cemegol ar yr ochr arall. Mae pwyntiau dŵr amrywiol ar gael o gwmpas y safle ym mhob cae.
Mae ein Tŷ Clwb, gyda Wi-Fi am ddim a bar trwyddedig, yn cynnwys amrywiaeth eang o ddiodydd alcoholig a meddal i chi eu mwynhau wrth edrych dros Borth Einon a Bae Horton. Mae bwyd yn cael ei weini bob dydd gyda detholiad o brydau a byrbrydau sy'n darparu ar gyfer y teulu cyfan. Rydym yn cynnal adloniant rheolaidd trwy gydol y tymor gan gynnwys bingo, caraoce, adloniant byw a nosweithiau cwis. Mae gennym BT Sport a Sky yn Nhŷ'r Clwb fel nad ydych yn colli'r digwyddiadau chwaraeon diweddaraf.
Mae Bank Farm yn cynnig cyfleusterau i bobl o bob oedran. Wrth i chi gael hoe o ymweld ag atyniadau'r ardal, fel gwesteion Bank Farm gallwch ddefnyddio'r pwll cynnes awyr agored sy'n cael ei orchuddio gan do ôl-dynadwy, a hynny heb unrhyw gost ychwanegol, neu logi'r cwrt tenis maint llawn. Mae lle chwarae antur awyr agored yma ar gyfer y plant. Gall ein siop fach a'n golchdy ar y safle ddiwallu eich holl anghenion hanfodol. Mae Wi-Fi o safon hefyd ar gael am dâl bach.
Gallwn bellach ddarparu ar gyfer cynulliadau carfanau a phebyll am hyd at 5 niwrnod heb yr angen am ganiatâd cynllunio. Mae gan gae'r cynulliad hyd at 60 o bwyntiau trydan ac mae'r cyfleusterau toiled a'r cawodydd gerllaw.
Gwerthir carafanau sefydlog ar y safle hefyd; ewch i'r wefan neu cysylltwch â'r dderbynfa os oes gennych ddiddordeb.
Gwersylla Moethus yn 'Bank Farm' - mae gennym 2 bod gwersylla moethus o'r safon orau ar hyn o bryd sy'n berffaith ar gyfer teuluoedd sydd am gael ychydig mwy o le na'r hyn a geir mewn pabell. Mae gennym hefyd 1 pod â lle i bump ac un pod caban y gall 4 i 6 o bobl gysgu ynddo. Mae toiled a chawod yn y ddau ohonynt. Gweler ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am bob pod.
Ffoniwch y dderbynfa i logi un neu ewch i'r wefan a'r tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf. Argymhellir eich bod yn archebu ar gyfer gwyliau banc a gwyliau'r ysgol.
Carafannau/cerbydau teithio a phebyll o £27.50 y noson (tymor tawel) a £40.00 (tymor prysur). Defnyddir system mesuryddion deallus ar gyfer y trydan ar Bank Farm, ac mae'r holl fanylion amdani ar gael ar y wefan.
Mae Bank Farm yn darparu lleiniau llawr caled gyda neu heb gyflenwad trydan o 1 Mawrth 2024 i 5 Ionawr 2025. Carafannau/cerbydau teithio a phebyll o £27.50 y noson (tymor tawel) a £40.00 (tymor prysur).
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 2
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Carafannau/cerbydau teithio a phebyll (tymor prysur). | £40.00 fesul llain (2 o bobl) |
Carafannau/cerbydau teithio a phebyll (tymor tawel), | £27.50 fesul llain (2 o bobl) |
*Fel canllaw, rhoddir prisiau fesul ystafell fesul noson ar gyfer gwestai, gwestai bach, gwely a brecwast, fflatiau â gwasanaeth a fesul wythnos am lety hunanddarpar.
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Cyfleusterau
Arall
- Evening meal available / cafe or restaurant on-site
- Parcio preifat
- Pets accepted by arrangement
- Restaurant/Café on Premises
- Short breaks available
- TV in bedroom/unit
Arlwyo
- Siop fwyd
Cyfleusterau Darparwyr
- Barbeciw
- Cawodydd
- Children's facilities available
- Pwynt gwaredu cemegol
- Pwyntiau cysylltu â'r trydan
- Toiledau cyhoeddus
- Tŷ Golchi
- Wifi ar gael
Cyfleusterau Hamdden
- Cwrt tennis
- Hot Tub
- Pwll nofio dan do
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
Nodweddion Darparwr
- Trwyddedig
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Cyfleusterau i blant
- Family Friendly
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael