Am
Noddfa dawel arbennig yng nghalon hardd penrhyn Gŵyr yw Seren Retreat, gyda'i arfordir godidog a'i natur ddigyffwrdd. Mae gennym 23 erw o goedwig dderw hynafol a gweirgloddiau blodau gwyllt y gallwch ymlacio a dadflino ynddynt. Gadewch i straen bob dydd ddiflannu a chymerwch saib gyda'n henciliadau adnewyddu unigryw. Mae hefyd yn bosib i chi aros gyda ni ar sail gwely a brecwast pan nad ydym yn gweithredu rhaglen encilio. Rydym wedi'n hamgylchynu gan hanes a llên gwerin, gyda sawl castell, eglwys a safle hynafol i'w harchwilio. Mae ein gwestai'n gwerthfawrogi'r mynediad rhwydd i draethau hardd arfordiroedd de a gogledd Gŵyr, gyda chanol dinas Abertawe a phentref pysgota darluniadwy'r Mwmbwls gerllaw.
Ein hystafelloedd en-suite clyd yw'r lle perffaith i orffen eich diwrnod ym Mhenrhyn Gŵyr. P'un ai eich bod wedi bod yn ymlacio neu'n archwilio, bydd croeso cynnes a gwely cyfforddus. Deffrwch fel person newydd a mwynhewch frecwast Cymreig mawr neu un o'n brecwast arbennig i lysieuwyr.
Mwynhewch fod un cam yn agosach at natur a dewch i aros yn un o'n pebyll crwn Mongoleg arbennig. Mae ein pebyll crwn wedi'u lleoli ar ddôl breifat, sydd ag afon ei hun ac wedi'i hamgylchynu gan goedwig dderw hynafol. Gallwch hefyd drefnu i gael amrywiaeth o driniaethau a therapïau yn ystod eich cyfnod gyda ni er mwyn cael y profiad ymlaciol perffaith.
Pris a Awgrymir
Cyfanswm yr ystafelloedd 4