Somerfield Lodge ensuite bedroom

Am

Mae Somerfield Lodge ger mynedfa penrhyn hardd Gŵyr, sef Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig gyntaf y DU. Mae wrth ymyl Clwb Golff y Clun ac mae ganddo 6 ystafell ddwbl ag en suite, gyda chawod bwerus ym mhob un ohonynt. Mae digon o le parcio am ddim ar gael yn ogystal â Wi-Fi am ddim. Mae brecwast llawn ffres wedi'i gynnwys yn y pris, ac mae gan westeion fynediad i holl gyfleusterau'r clwb golff, gan gynnwys y bar a'r ystafell fwyta. Mae ein holl fwyd wedi'i goginio ar y safle, ac mae dewis eang ar gael, o brydau bar syml i brydau 3 chwrs blasus.

Mae gan y clwb ddau far, gydag un ohonynt yn cynnig golygfeydd panoramig o'r cwrs golff, a'r llall yn cynnig golygfa wych o'r môr ym Mae Abertawe. Mae'r holl ymwelwyr preswyl hefyd yn gallu manteisio ar ffïoedd glaslawr is wrth chwarae yng Nghlwb Golff y Clun, sef un o gyrsiau golff gweundir 18 twll gorau Cymru a ddyluniwyd gan Harry Colt yn y 1920au.

Gall gwesteion archwilio tref glan môr y Mwmbwls sydd o fewn 2 filltir i'r llety. Mae'n cynnig caffis a chyfleusterau siopa ardderchog. Beth am ymweld â Chastell Ystumllwynarth (sy'n dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif) neu gerdded ar hyd y promenâd sy'n edrych dros Abertawe a Môr Hafren? Bydd taith car 5 munud o'r Mwmbwls yn arwain ymwelwyr at galon penrhyn Gŵyr lle ceir 19 milltir o harddwch, traethau a baeau.

Mae Sommerfield Lodge hefyd yn agos at ddinas Abertawe, a Phrifysgol Abertawe ac Ysbyty Singleton yn bennaf, sy'n daith 5 milltir i ffwrdd yn y car.

Pris a Awgrymir

Cyfanswm yr ystafelloedd 6

Cyfleusterau

Arall

  • Evening meal available / cafe or restaurant on-site
  • Licensed
  • Parcio preifat
  • Short breaks available
  • Totally non-smoking establishment
  • TV in bedroom/unit

Arlwyo

  • Bar

Cyfleusterau Darparwyr

  • Cyfleusterau cynadledda

Dulliau Talu

  • Derbynnir y prif gardiau credyd

Hygyrchedd

  • Lift

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Parcio ar y safle

Plant a Babanod

  • Yn derbyn plant (isafswm oedran)

Teithio a Masnachu

  • Wi-fi ar gael

Map a Chyfarwyddiadau

Somerfield Lodge B & B

4 Sêr Croeso Cymru 4 Sêr Croeso Cymru 4 Sêr Croeso Cymru 4 Sêr Croeso Cymru 4 Sêr Croeso Cymru
118 - 120 Owls Lodge Lane, Mayals, Swansea, SA3 5DP

Ffôn: 01792 401989

Graddau

  • 4 Sêr Croeso Cymru
4 Sêr Croeso Cymru

Gwobrau

  • Bwrdd Croeso CymruWalkers Welcome Walkers Welcome
  • Bwrdd Croeso CymruCyclists Welcome Cyclists Welcome
  • Rhanbarthol ac AmrywiolTystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor 2015 Tystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor 2015 2015
  • Rhanbarthol ac AmrywiolUndeb Golff Cymru Undeb Golff Cymru

Amseroedd Agor

Diwrnodau agor 2025 (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder