Am
Mae gan Lanmadog olygfeydd syfrdanol o forlin Sir Benfro a mynyddoedd Preseli.
Ar waelod y pentref mae gwarchodfa natur Chwitffordd, sy'n hafan i naturiolwyr. Ychydig funudau'n unig i ffwrdd mewn car, a 10 munud i ffwrdd drwy gerdded, mae saith milltir o draethau tywodlyd heb eu difetha sy'n wych ar gyfer syrffio. Mae gan yr ardal nifer o lwybrau cerdded deniadol drwy amrywiaeth o gynefinoedd - Coed ac Afon Cheriton, Coed Cwm Iorwg, Mynydd Llanmadog a llwybrau cerdded drwy'r warchodfa natur, i enwi ychydig yn unig.
Yn y pentref mae tafarn â bwyty a siop/swyddfa bost. Mae cyfleoedd merlota a marchogaeth ar gael.
Mae cyfadeilad siopa modern, canolfan hamdden dan do, marina a bywyd nos Abertawe hanner awr i ffwrdd yn unig mewn car, ac mae'n daith fer mewn car i holl draethau a...Darllen Mwy
Am
Mae gan Lanmadog olygfeydd syfrdanol o forlin Sir Benfro a mynyddoedd Preseli.
Ar waelod y pentref mae gwarchodfa natur Chwitffordd, sy'n hafan i naturiolwyr. Ychydig funudau'n unig i ffwrdd mewn car, a 10 munud i ffwrdd drwy gerdded, mae saith milltir o draethau tywodlyd heb eu difetha sy'n wych ar gyfer syrffio. Mae gan yr ardal nifer o lwybrau cerdded deniadol drwy amrywiaeth o gynefinoedd - Coed ac Afon Cheriton, Coed Cwm Iorwg, Mynydd Llanmadog a llwybrau cerdded drwy'r warchodfa natur, i enwi ychydig yn unig.
Yn y pentref mae tafarn â bwyty a siop/swyddfa bost. Mae cyfleoedd merlota a marchogaeth ar gael.
Mae cyfadeilad siopa modern, canolfan hamdden dan do, marina a bywyd nos Abertawe hanner awr i ffwrdd yn unig mewn car, ac mae'n daith fer mewn car i holl draethau a phentrefi Gŵyr, felly mae'n lleoliad gwych ar gyfer eich gwyliau.
Mae Tallizmand ar ochr Mynydd Llanmadog, mewn man prydferth iawn. Mae'r holl ystafelloedd gwely wedi'u dodrefnu'n chwaethus ac yn cynnwys teledu, sychwr gwallt a chyfleusterau gwneud coffi a the.
Mae brecwast Cymreig llawn, prydau cartref a phecynnau cinio ar gael. Rydym hefyd yn darparu ar gyfer deietau arbennig. Mae hefyd le i storio byrddau syrffio neu feiciau ac mae ystafell sychu ar gyfer dillad gwlyb.
Darllen Llai