Am
Mae'r cabanau hyn mewn cornel dawel ym Mharc Cabanau Gwyliau Summercliffe, taith gerdded fer o Fae Caswell.
Gosodir y cabanau fel arfer yn wythnosol o ddydd Sadwrn. Fodd bynnag, mae gosodiadau byr ar gael weithiau.
Mae Cabanau Whiteshell ym Mharc Summercliffe, sy'n safle tawel sy'n cael ei drin â gofal, taith gerdded 5 munud o Fae Caswell.
Mae Bae Caswell yn drawiadol o hardd, gyda thraeth tywodlyd, pyllau trai ac ogofâu. Mae'r traeth yn boblogaidd iawn ar gyfer pob math o weithgareddau. Gallwch nofio, syrffio, corff-fyrddio a chaiacio'n ddiogel yma. Hefyd, mae teithiau cerdded gwych i'w cael ar lwybr yr arfordir, i'r dwyrain a'r gorllewin.
Ar y tir, mae Gwarchodfa Natur Coetir Coed yr Esgob. Mae hwn yn goetir hynafol sy'n llawn bywyd gwyllt a phlanhigion gwyllt prydferth ac yn lle cyffrous i'w archwilio.
Mae pob un o'n cabanau wedi derbyn tair seren gan Groeso Cymru ac maent yn fwy addas i gyplau gan mai dim ond un ystafell wely ddwbl sydd ynddynt. Mae gwely plygu yn y lolfa hefyd - sy'n ddelfrydol ar gyfer plentyn neu oedolyn arall. Croesewir cŵn hefyd. Caiff dillad gwely a thywelion eu cynnwys.
Mae bob caban Whiteshell wedi'i adnewyddu i safon uchel iawn ac mae'r tu mewn wedi'i ddylunio yn ôl thema glan môr, gyda lliwiau morol tawel. Mae'r holl gelfi yno'n newydd, ac fe'u dewiswyd oherwydd eu dyluniad a'u hymarferoldeb. Darperir Wi-Fi a theledu Freeview gyda chwaraewr DVD.
Mae gan bentref y Mwmbwls gerllaw nifer o gaffis a bwytai i ddarparu ar gyfer pob chwaeth, ynghyd â siopau unigryw ac orielau celf preifat. Rydym yn hapus i roi cyngor ar deithiau cerdded, archwilio, llogi siwtiau dŵr. byrddau, gwersi syrffio a bwyta mas.
Pris a Awgrymir
Cyfanswm yr unedau 3
Cysgu (isafswm) 2
Cysgu (uchafswm) 3
Prisiau (yr uned yr wythnos) o 370.00
Cyfleusterau
Arall
- Parcio preifat
- Pets accepted by arrangement
- Short breaks available
- Totally non-smoking establishment
- TV in bedroom/unit
Cyfleusterau Darparwyr
- Children's facilities available
- Darperir dillad gwely
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Mynediad wedi'i wella ar gyfer ymwelwyr ag anawsterau symudedd
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael