Albert Hall Abertawe

Am

Adeiladwyd Albert Hall yn wreiddiol fel theatr gerdd yn y 1800au, ac mae bellach yn gartref i gymysgedd o stondinau bwyd stryd a bariau, digwyddiadau cyffrous, canolfan chwarae i blant, mannau gwaith, busnesau lleol a gwesty Apart Hotel mewn man cymunedol bywiog.

 

BWYD

Mae gan Albert Hall amrywiaeth o stondinau bwyd stryd a bariau annibynnol. Gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o fwyd, o fyrgers a pizza i seigiau Indiaidd blasus a souvlaki Groegaidd traddodiadol. Gallwch flasu cwrw crefft arobryn a choctel neu ddau!

Does dim angen cadw lle, galwch heibio!

DIGWYDDIADAU

Os ydych yn chwilio am ychydig o gyffro, rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, o nosweithiau cwis i ddosbarthiadau iechyd a lles, yn ogystal â gweithgareddau sy'n addas i deuluoedd. Neu, os ydych yn chwilio am rywbeth mwy preifat, mae gennym ystafell fwyta breifat ar falconi gwreiddiol y theatr!

CHWARAE   

Mae cyfleoedd chwarae di-ben-draw ar gyfer eich plant bach - gallant ddringo, cropian a darganfod yn ein hardal chwarae i blant ar thema'r jyngl.

DEWCH I DDARGANFOD EIN HANES

Agorodd Albert Hall ei drysau ym 1864 fel theatr gerdd â lle i 2,500 o bobl. Mae'r lleoliad wedi croesawu rhai o sêr mwyaf y byd opera, o Adelina Patti i awduron fel Oscar Wilde a Charles Dickens. Mae'n bosib y bydd llawer yn ei chofio fel un o ganolbwyntiau sinema a bingo Abertawe cyn iddi gau ei drysau yn 2007 am 17 o flynyddoedd. Ailagorwyd y neuadd yn 2024 fel man cymunedol bywiog yn dilyn gwaith adfywio.

AROS

Ar y llawr uchaf mae gennym gymysgedd o fflatiau moethus. Maent yn cynnwys cegin â'r holl gyfarpar, gwelyau dwbl mawr, peiriant coffi Nespresso a theledu clyfar. P'un a ydych yn aros am gyfnod hir, ar gyfer busnes neu am y penwythnos yn unig, mae'r fflatiau hyn yn cynnig popeth y mae ei angen arnoch, gyda holl gyfleusterau gwych Albert Hall ar garreg eich drws.

Mae pob ystafell wedi'i henwi ar ôl person eiconig a berfformiodd ar ein llwyfan, gan ddathlu pawb o'r awduron enwog Charles Dickens ac Oscar Wilde i swffragetiaid Abertawe Emily Phipps a Clara Neal.

Cyfleusterau

Arall

  • Croesewir cw^n ufudd
  • Pub quizzes
  • Yn Derbyn Partïon Bysiau

Arlwyo

  • Bar
  • Cinio ar gael
  • Outdoor Eating
  • Pryd nos ar gael
  • Trwyddedig

Cyfleusterau Darparwyr

  • Ar gael ar gyfer derbyniad priodas
  • Caniateir anifeiliaid anwes
  • Cerddoriaeth fyw
  • Cyfleusterau cynadledda
  • Derbynnir grwpiau
  • Gellir llogi'r bwyty i gyd
  • Ystafelloedd preifat

Cyfleusterau Lleoliad

  • Cyfleusterau toiled
  • Seddau yn yr awyr agored

Dulliau Talu

  • Derbynnir y prif gardiau credyd

Hygyrchedd

  • Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn

Nodweddion Darparwr

  • Bwyta yn yr awyr agored
  • Lleoliad unigryw
  • Mewn tref/canol dinas

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus

Plant a Babanod

  • Cadeiriau uchel
  • Cyfleusterau newid babanod
  • Yn derbyn plant (isafswm oedran)

Teithio a Masnachu

  • Wi-fi ar gael

Teithio Grw^p

  • Croesewir partïon bysiau
  • Derbynnir bysiau

Map a Chyfarwyddiadau

Albert Hall

Amgen

Cradock Street, Swansea, SA1 3EP

Amseroedd Agor

Diwrnodau agor 2025 (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)
DiwrnodAmseroedd
Dydd Llun - Dydd Sadwrn09:00 - 22:30
Dydd Sul10:00 - 20:00
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder