Am
Mae gan y lolfa goffi fwydlen ddiodydd helaeth yn amrywio o de brecwast i goffïau arbenigol moethus. Mae gan 'The Coffee Lounge' rywbeth i bawb, gall hyd yn oed y rhai bach fwynhau siocled poeth gyda hufen chwip a malws melys. Mae gennym ddewisiadau amgen i laeth arferol fel llaeth soya neu laeth cnau coco.
Mae'n ardal steilus i gael clonc â ffrindiau ac ymlacio gyda choffi ffansi a byrbryd wrth edrych dros y pwll nofio. Beth am aros i fwynhau cinio ysgafn?
Mae ‘The Coffee Lounge’, sydd ag oriau agor hir ac sydd ar agor 7 niwrnod yr wythnos, yn atyniad a groesewir yng Ngŵyr. Rhoddir croeso cynnes yma i gerddwyr a beicwyr o bob oed, p’un a ydynt yn fwdlyd neu beidio.
Bydd y plant bach a'r rhai mawr yn dwlu ar yr amrywiaeth o hufen iâ Mario's, ac mae detholiad newydd o hufen iâ â ffrwythau (syndis) ar gael i'w bwyta y tu mewn neu i fynd â nhw gyda chi. Beth am dretio'ch hun i frowni siocled cartref heb glwten a diod boeth - rydych chi ar wyliau wedi'r cyfan. Mae crymbl afalau feganaidd ar gael gennym hefyd.
Mewn brys? Peidiwch â phoeni, gallwn wneud coffi i chi fynd ag ef gyda chi, fel y gallwch gael eich dos o gaffein cyn i chi yrru gartref ar ôl gwyliau teuluol gwych yng Ngŵyr.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Cinio ar gael
- Gwasanaeth tecawê
Cyfleusterau Darparwyr
- Caniateir anifeiliaid anwes - Pet Friendly Areas
- Cerddoriaeth fyw
Cyfleusterau Lleoliad
- Cyfleusterau toiled
Dulliau Talu
- Derbynnir Visa
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Ardal chwarae plant
- Cyfleusterau newid babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael