Am
Tafarn draddodiadol i'r teulu sy'n gweini bwyd tafarn mewn adeilad hardd 600 oed, a chanddo estyniad bwyty modern, ardal chwarae i blant ac ardal patio sy'n wynebu'r haul.
Mae gan dafarn Beaufort Arms nifer o nodweddion a fydd yn eich denu fel bwyd gwych, adeilad hardd 600 oed, ardal chwarae i blant a'r ffaith ein bod yn agos at rai o draethau a llwybrau cerdded gorau penrhyn Gŵyr. Rydym yn cynnig bwyd tafarn traddodiadol felly p'un a ydych chi'n mwynhau stêc, byrgers neu bysgod a sglodion traddodiadol, rydym yn sicr o gael rhywbeth i'ch temtio. Rydym yn paratoi cinio dydd Sul cartref ac mae gennym brydiau dyddiol arbennig sy'n cynnig rhywbeth gwahanol i'r arfer. Bydd ein bwydlen i blant yn cadw boliau'r rhai bach yn llawn a chofiwch gymryd cip ar ein cynigion arbennig bob diwrnod o'r wythnos.
Mae ein hardaloedd patio a bar yn addas i gŵn, sy'n berffaith i'r rheini sydd am fynd â'u cŵn am dro ar hyd penrhyn Gŵyr. Beth am alw heibio am rywbeth i'w fwyta, am beint o'n cwrw casgen sydd wedi'i achredu gan Cask Marque neu am wydraid o win i wobrwyo’ch hun ar ôl yr holl ymarfer corff?
Mae gan ein gardd gefn ardal chwarae i blant ac ni chaniateir smygu er eu diogelwch.
Rydym yn aelod o gynllun Brit Stops, felly os oes gennych gartref modur ac rydych yn chwilio am rywle i aros yn ardal Gŵyr, beth am alw heibio i weld a oes gennym argaeledd?
Gobeithiwn eich gweld chi'n fuan yn Beaufort Arms!
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir cw^n ufudd
Arlwyo
- Trwyddedig
Cyfleusterau Darparwyr
- Caniateir anifeiliaid anwes
- Derbynnir Cw^n
- Derbynnir grwpiau
Cyfleusterau Lleoliad
- Cyfleusterau toiled
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Toiled ar gyfer ymwelwyr anabl
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Ardal chwarae plant
- Cyfleusterau newid babanod
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael