Bluebell Coffee and Kitchen pepperoni pizza

Am

Mae Bluebell yn siop goffi a bwyty teuluol yn Sgeti. Rydym yn gweini brecwast, brecinio a chinio – i gyd wedi'u coginio'n ffres yn ein cegin cynllun agored.

Ymysg ein dewisiadau poblogaidd iawn rydym yn cynnig te prynhawn, cyfleoedd i logi'r lleoliad, arlwyo allanol a'n bargen dydd Gwener lle cewch brynu un pizza a chael un am HANNER PRIS!

Mae hurio ein lleoliad yn Abertawe (hyd at 80 o bobl) yn boblogaidd iawn am ddathliadau megis partïon pen-blwydd, dyweddïo, bedyddio, cerrig milltir a derbyniadau priodas bach. Rydym yn darparu cinio bys a bawd ar gyfer yr uchod.

Rydym hefyd yn cynnig arlwyo allanol (cinio bys a bawd neu fwydlenni pwrpasol) ar gyfer cyfarfodydd busnes, partïon pen-blwydd, dyweddïo, bedyddio a derbyniadau priodas bach.

Gweinir coffi Arabica arobryn sydd gyda’r gorau yn y byd (Allpress), ochr yn ochr â chyflenwyr te dalenni rhydd o Abertawe (Welsh Brew Tea). Mae ein bwydlenni’n cynnig cymaint o gynnyrch organig o Gymru â phosib.

Ni waeth a ydych yn rhywun sy'n bwyta cig, yn llysieuwr, yn figan, neu’n methu ymdopi â glwten, rydym yn cynnig rhywbeth at ddant pawb, ac mae ein treftadaeth Roegaidd yn trwytho ein bwydlen flasus.

Mae ein bar wedi’i drwyddedu’n llawn i weini gwinoedd blasus, cyrfau casgen, cyrfau eraill a gwirod a gallwch eu mwynhau y tu mewn i’n caffi ffasiynol neu ar ein teras.

Cyfleusterau

Arlwyo

  • Bar
  • Darperir ar gyfer gofynion dietegol arbennig
  • Gwasanaeth tecawê
  • Trwyddedig

Cyfleusterau Darparwyr

  • Ar gael ar gyfer derbyniad priodas
  • Caniateir anifeiliaid anwes
  • Cerddoriaeth fyw
  • Derbynnir grwpiau

Cyfleusterau Lleoliad

  • Cyfleusterau toiled

Dulliau Talu

  • Derbynnir y prif gardiau credyd

Hygyrchedd

  • Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
  • Mynediad wedi'i wella ar gyfer ymwelwyr â nam ar eu golwg
  • Mynediad wedi'i wella ar gyfer ymwelwyr ag anawsterau symudedd
  • Toiled ar gyfer ymwelwyr anabl

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Parcio ar y safle

Plant a Babanod

  • Cyfleusterau newid babanod
  • Yn derbyn plant (isafswm oedran)

Teithio a Masnachu

  • Wi-fi ar gael

Map a Chyfarwyddiadau

Bluebell Coffee & Kitchen

Ystafell De/Siop Goffi

17-18 Carnglas Road, Sketty, Swansea, SA2 9BQ

Ffôn: 01792207891

Gwobrau

  • Rhanbarthol ac AmrywiolSgôr Hylendid Bwyd 5 Sgôr Hylendid Bwyd 5
  • Swansea Bay Tourism AwardsGwobrau Twristiaeth Bae Abertawe Rhestr Fer 2019 Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe Rhestr Fer 2019 2019

Amseroedd Agor

Diwrnodau agor 2025 (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)
DiwrnodAmseroedd
Dydd Llun - Dydd Sadwrn09:00 - 16:00
Dydd Sul10:00 - 14:00
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder