Am
Dyma dafarn atyniadol sy'n rhan ganolog o bentref pleserus Llanmadog ar gopa gogledd-orllewin penrhyn Gŵyr (y lle cyntaf i gael ei ddynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol).
Mae'r Britannia yn dafarn o ddiwedd yr 17eg ganrif sydd wedi'i chadw mewn cyflwr da. Yn ôl y sôn, daw trawstiau lolfa'r Britannia o longddrylliadau yr aethpwyd â nhw i'r lan i gael gafael ar eu cargo gwerthfawr. Mae gan y dafarn ei lle tân a'i phopty bara gwreiddiol o hyd. Yn ogystal, mewn rhannau o'r dafarn, gellir gweld y lampau nwy gwreiddiol.
Mae gerddi cwrw o faint da o gwmpas y Britannia. Yn y cefn, gallwch fwynhau golygfeydd gwych o Foryd Llwchwr ac mae casgliad o anifeiliaid bach megis cwningod a byjis i ddifyrru'r plant.
Y Bwyty
Rhaid rhoi cynnig ar ein bwyty poblogaidd iawn. Cewch ddewis rhwng archebu o'n bwydlenni gosod arbennig, ein bwrdd o gynigion arbennig neu'r fwydlen gyffredinol sydd ar gael ar nos Iau, nos Wener a nos Sadwrn.
Rydym yn gweini cinio rhost dydd Sul traddodiadol ac rydym yn argymell y dylech gadw lle o leiaf dri diwrnod ymlaen llaw gan fod y bwyty'n llenwi'n gyflym iawn.
Rydym yn falch o weini cig oen morfeydd heli Gŵyr, eog mwg gwymon cwmni Selwyn's o Abertawe a chwrw Gower Gold.
Y Bar
Dewch i ymlacio yn ein bar traddodiadol o ddiwedd yr 17eg ganrif. Mae gennym losgwr pren ac rydym yn gweini tri math o gwrw go iawn, gan gynnwys Gower Gold, a gynhyrchir gan gwmni lleol, a dau gwrw gwadd. Rydym yn gweini lager premiwm, gan gynnwys Birra Moretti a Stella ochr yn ochr â Carling. Rydym yn gweini Strongbow, Thatchers a Guinness oddi ar y tap.
Rydym hefyd yn gweini coffi ffres ynghyd â bisgedi, sgonau a phice ar y maen sy’n gynnyrch cartref.
Mae gennym fwydlen far draddodiadol (sy'n cynnig cynnyrch cartref yn unig) ynghyd â bwrdd cynigion arbennig helaeth i roi digon o ddewis i chi.
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir cw^n ufudd
Arlwyo
- Darperir ar gyfer gofynion dietegol arbennig - Gluten Free options available
- Gwasanaeth tecawê
- Outdoor Eating
- Pryd nos ar gael
- Trwyddedig
Cyfleusterau Darparwyr
- Derbynnir grwpiau
Cyfleusterau Lleoliad
- Cyfleusterau toiled
- Seddau yn yr awyr agored
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Ardal chwarae plant
- Bwydlen plant
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)