Dylan's at Cwmdonkin

Am

Croeso i Dylan's ym Mharc Cwmdoncyn
Ar agor bob dydd, drwy gydol y flwyddyn, boed law neu hindda!

Mae Dylan's, sydd yng nghanol Parc Cwmdoncyn hyfryd, yn cynnig croeso cynnes a chyfeillgar i bawb. Gallwch fwynhau coffi barista, amrywiaeth o de a diodydd meddal yn ogystal â theisennau cartref, brechdanau wedi'u tostio, cŵn poeth a hufen iâ lleol.

Rydym yn hapus i groesawu cŵn, ac mae seddi dan do cyfforddus ar gael ar gyfer diwrnodau oer.

Mae Parc Cwmdoncyn ei hun yn cynnwys cyfleusterau gwych gan gynnwys cyrtiau tenis a ailwampiwyd yn ddiweddar, ardal hamdden heb gŵn, cyfarpar pêl-fasged ac ardal chwarae i blant sy'n cynnwys sleid fawr a weiren wib.

Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn - cymerwch gip ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld y diweddaraf.

P'un a ydych chi'n cyfarfod â ffrindiau, yn mwynhau diwrnod mas gyda'r teulu, neu'n ymlacio gyda phaned o goffi, Dylan's a Pharc Cwmdoncyn yw'r lle perffaith i fod.

Cyfleusterau

Arlwyo

  • Cinio ar gael
  • Gwasanaeth tecawê

Cyfleusterau Darparwr

  • Croeso i Anifeiliaid Anwes

Nodweddion Darparwr

  • Mewn tref/canol dinas

Plant a Babanod

  • Ardal chwarae i blant
  • Yn derbyn plant (isafswm oedran)

Map a Chyfarwyddiadau

Dylan's at Cwmdonkin

Caffi

Cwmdonkin Park Pavilion, Cwmdonkin Park, Uplands, Swansea, Swansea, SA2 0PP

Ffôn: 07838214313

Gwobrau

  • Rhanbarthol ac AmrywiolSgôr Hylendid Bwyd 5 Sgôr Hylendid Bwyd 5

Amseroedd Agor

Tymor (1 Ion 2025 - 30 Ebr 2026)
DiwrnodAmseroedd
Dydd Llun - Dydd Sul10:00 - 17:00
Tymor (1 Mai 2025 - 30 Medi 2025)
DiwrnodAmseroedd
Dydd Llun - Dydd Sul10:00 - 19:00
Tymor (1 Hyd 2025 - 31 Rhag 2025)
DiwrnodAmseroedd
Dydd Llun - Dydd Sul10:00 - 15:00
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder