GG's at Caswell Bay

Am

Mae GG's Gelato yn cyflwyno hwyl a blasau arbennig i lan y môr yn un o'r lleoliadau arfordirol mwyaf poblogaidd mhenrhyn Gŵyr, sef Bae Caswell. Mae Bae Caswell yn enwog am ei dywod glân, ei olygfeydd ysgubol a'i statws Baner Las, felly mae'n boblogaidd iawn ymysg pobl sydd am ymlacio ar y traeth, cerddwyr a syrffwyr sy'n golygu ei fod yn lleoliad perffaith ar gyfer siop cludfwyd ar lan y môr.

Mae lleoliad newydd GG's yn cynnig profiad cyfleus a chyflym sy'n berffaith ar gyfer diwrnod ar y traeth. Gall ymwelwyr fwynhau gelato wedi'i wneud â llaw yn lleol yn Abertawe, yn ogystal ag amrywiaeth o ddiodydd poeth a detholiad o fwyd ffres.  P'un a ydych chi am fwynhau hufen iâ ar ôl nofio, coffi wrth gerdded ar hyd yr arfordir neu bryd o fwyd cyflym wrth i chi fwynhau'r golygfeydd, mae'r lleoliad yn hyblyg ac yn hawdd ei gyrraedd.

Wrth gynnal hunaniaeth chwareus, adnabyddadwy GG's Gelato, mae'r safle ym Mae Caswell yn cyflwyno'r un ansawdd a chreadigrwydd sy'n gysylltiedig â'r brand, gan newid blasau'r gelato i gadw'r profiad yn newydd ac yn gyffrous. Mae canolbwyntio ar wasanaeth cludfwyd yn sicrhau y gall ymwelwyr fwynhau eu bwyd a'u diod mewn unrhyw leoliad - ar y tywod, ar hyd llwybr yr arfordir neu wrth edrych dros y bae.

Gan gyfuno bwyd gwych a lleoliad o'r radd flaenaf, mae GG's Gelato ym Mae Caswell yn ychwanegu cyffro modern at un o draethau enwocaf Abertawe, gan gynnig y safle perffaith i gael saib wrth archwilio arfordir Gŵyr.

Cyfleusterau

Arlwyo

  • Gwasanaeth tecawê

Nodweddion Darparwr

  • Glan y môr

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Parcio ar y safle

Map a Chyfarwyddiadau

GG's Gelato - Bae Caswell

Tecawê

Caswell Rd, Swansea, West Glamorgan, SA3 4RY

Ffôn: 01792 850777

Amseroedd Agor

Tymor (1 Ion 2026 - 31 Rhag 2026)
DiwrnodAmseroedd
Dydd Llun - Dydd Gwener11:00 - 18:00
Dydd Sadwrn - Dydd Sul10:00 - 19:00
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder