Am
Beth bynnag yw'r achlysur, brownis cartref Kate yw'r anrheg fwyaf unigryw. Maent wedi'u pecynnu'n hardd gan ddefnyddio raffia a phapur sidan ac wedi’u personoli gyda'ch neges bersonol eich hun. Dyma'r brownis gorau y byddwch chi erioed yn eu blasu, darllenwch ein hadolygiadau gan ein cwsmeriaid a'r wasg i glywed mwy.
Fyddwch chi ddim yn cael eich siomi gan ein brownis blasus - does dim rhodd gwell na siocled.
Dyma'r anrheg berffaith i ddathlu symud tŷ, babi newydd, pen-blwydd priodas, pen-blwydd, dychwelyd i'r ysgol neu er mwyn dymuno gwellhad buan i rywun, i ddweud diolch neu ymddiheuro! Neu, beth am anfon rhai i chi'ch hun fel anrheg?
Mae pob un o'n parseli brownis yn cael eu pobi'n ffres gan ddefnyddio wyau maes a gellir eu hanfon ar y diwrnod archebu, i'w dosbarthu ar y diwrnod gwaith nesaf (ar gyfer archebion a wnaed cyn 10am). Fel arall gallwch ddewis eich dyddiad dosbarthu wrth i chi archebu a threfnu eich archebion ymlaen llaw. Gallwch archebu brownis heb gnau neu heb glwten, ac rydym hefyd yn cynnig basgedi sy'n cynnwys ein menyn blas brownis unigryw. Neu, beth am gofrestru i gael tanysgrifiad brownis? Mae gennym rywbeth at ddant pawb - Gower Cottage Brownies yw'r anrheg berffaith ar gyfer unrhyw achlysur! Cofiwch fod ein prisiau yn cynnwys dosbarthu am ddim.
Am ein brownis
Er ein bod wedi ennill nifer o wobrau am ein brownis, o wobrau Great Taste i Wobrau Gwir Flas Cymru, y wobr fwyaf gwerthfawr i ni yw'r e-byst niferus o ddiolch rydym yn eu derbyn gan ein cwsmeriaid hapus.
I gyflawni hyn rydym wedi bod yn defnyddio'r un rysáit ers dros 10 mlynedd, gan ychwanegu blasau newydd dim ond pan fyddwn wedi eu profi'n llawn ac yn gwbl hapus ag ansawdd y cynnyrch rydym yn ei gynnig.
Rhan fawr wrth gyflawni hyn yw ansawdd y cynhwysion rydym yn eu defnyddio. Yr unig gynhwysion rydym yn eu defnyddio yn ein brownis yw menyn Prydeinig, wyau maes, siwgr, blawd a siocled Belgaidd tywyll o safon uchel. Dim ond olewau a/neu gnau naturiol sy'n cael eu hychwanegu at rai o'n blasau eraill.
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
, tanysgrifiad (3 mis) brownis Gower Cottage. | £53.97 bwydlen prisiau sefydlog |
Basged - cwpan â phatrwm smotiog Emma Bridgewater | £49.99 bwydlen prisiau sefydlog |
Basged - llawn nwyddau maldodi | £45.00 bwydlen prisiau sefydlog |
Basged - llawn pethau moethus | £80.00 bwydlen prisiau sefydlog |
'Blondies' Gower Cottage | £19.59 bwydlen prisiau sefydlog |
Cerdyn rhodd Gower Cottage Brownies | £18.99 bwydlen prisiau sefydlog |
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Cyfleusterau
Dulliau Talu
- Derbynnir Visa
- Derbynnir y prif gardiau credyd