Am
Mae Gower Inn yng nghanol penrhyn Gŵyr yn cynnig croeso cynnes a chlyd sy'n addas ar gyfer unrhyw achlysur, boed law neu hindda!
Mae'r dafarn wledig hon dafliad carreg i ffwrdd o bentrefi Lunnon a Llanilltud Gŵyr, yng nghanol golygfeydd godidog ger traeth trawiadol Bae y Tri Chlogwyn, a dyma'r lle perffaith i bobl leol fwynhau pryd o fwyd blasus mewn lleoliad clyd a thraddodiadol.
Mae bwydlen llawn prydau blasus tu hwnt, a gall gwesteion fwynhau prydau o £6 yn unig, gan gynnwys sgampi mewn briwsion bara a sglodion, linguine gyda phesto a tharten caws mwg a betys. Os ydych yn dathlu achlysur arbennig, beth am roi cynnig ar y fwydlen benodol 3 chwrs gyda'r hwyr am £12.99, neu ginio rhost enwog y dafarn, sy'n cael ei weini gyda phwdinau Swydd Efrog, tatws rhost a grefi diddiwedd?
Os ydych yn chwilio am rywle i dorri syched, rhowch gynnig ar yr amrywiaeth o seidrau sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn, neu beth am beint o gwrw Gower Gold, sydd wedi'i achredu gan Cask Marque?
Bydd y tîm croesawgar yn barod i groesawu cwsmeriaid dan arweiniad y rheolwr profiadol Michael Schofield, sydd wedi bod yn rheoli'r dafarn ers dros 14 mis. Drwy gydol yr amser hwnnw mae wedi bod yn aelod amhrisiadwy o'r gymuned leol, gan weithio gyda Chanolfan Treftadaeth Gŵyr, tîm Twristiaeth Bae Abertawe a Llysgenhadon Gŵyr i greu penrhyn Gŵyr gwell.
P'un a ydych am gael diod dawel o flaen y lle tân, neu gystadlu wrth chwarae pŵl neu ddartiau, Gower Inn yw'r lle perffaith i nodi unrhyw achlysur, boed law neu hindda! Mae gan y dafarn ardd fawr ac mae ardal i fwynhau bwyd a diod sy'n addas i gŵn, felly mae croeso cynnes i'ch anifeiliaid anwes hefyd.
Cyfleusterau
Arall
- Credit cards accepted
- Licensed
- Restaurant/Café on Premises
Arlwyo
- Pryd nos ar gael
- Trwyddedig
Cyfleusterau Darparwyr
- Caniateir anifeiliaid anwes
- Cerddoriaeth fyw
- Derbynnir Cw^n
- Derbynnir grwpiau
- Gardd/patio at ddefnydd y gwesteion
- Wifi ar gael
Cyfleusterau Lleoliad
- Seddau yn yr awyr agored
Dulliau Talu
- Derbynnir Grwpiau
- Derbynnir MasterCard
- Derbynnir Visa
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
Nodweddion Darparwr
- Tŷ tafarn
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Cadeiriau uchel
- Cyfleusterau newid babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael