HQ Urban Kitchen exterior and seating area

Am

Caffi menter gymdeithasol cyfeillgar yng nghanol dinas Abertawe. 

Fel menter gymdeithasol, rydym yn ofalus iawn gyda phopeth rydym yn ei wneud. Mae ein pen-cogydd arbennig wedi creu bwydlen o fwyd blasus gan ddefnyddio cynnyrch o safon (a lleol lle bo'n bosib).

Gallwch fwynhau ein bwyd a diod blasus naill ai gyda ni neu fel cludfwyd.

Ac mae gennym far gyda thrwydded lawn, felly gallwch fwynhau gwydriad bach o win gyda'ch cinio.

Ein caffi eang cyfeillgar (yn yr hen orsaf heddlu) yw'r lleoliad perffaith ar gyfer cwrdd â ffrindiau neu dreulio amser yn mwynhau llyfr yn dawel. Gyda Wi-Fi cyflym, digonedd o socedi trydan a bwydlen o fwyd a diod blasus, byddwch chi am aros am byth!

A phan mae'r haul yn disgleirio, beth am fynd i'n gardd hyfryd am ginio blasus yn yr awyr agored. Ein gwerddon eang a thawel yw'r lle perffaith i ymlacio - trysor cudd yng nghanol Abertawe.

Ymwelwch â ni heddiw i brofi'r hyn sy'n gwneud HQ Urban Kitchen yn berffaith ar gyfer eich holl anghenion. Gallwch hyd yn oed ein llogi ar gyfer digwyddiadau. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu!

Dewisiadau feganaidd a heb glwten ar gael. Addas i gŵn.

Cyfleusterau

Arlwyo

  • Bar
  • Gwasanaeth tecawê
  • Trwyddedig

Cyfleusterau Darparwyr

  • Caniateir anifeiliaid anwes
  • Cerddoriaeth fyw
  • Cyfleusterau cynadledda

Cyfleusterau Lleoliad

  • Cyfleusterau toiled

Dulliau Talu

  • Derbynnir y prif gardiau credyd

Hygyrchedd

  • Toiled ar gyfer ymwelwyr anabl

Plant a Babanod

  • Yn derbyn plant (isafswm oedran)

Teithio a Masnachu

  • Wi-fi ar gael

Map a Chyfarwyddiadau

HQ Urban Kitchen

Caffi

Llys Glas, 37 Orchard Street, Swansea, Swansea, SA1 5AJ

Amseroedd Agor

Diwrnodau agor 2025 (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)
DiwrnodAmseroedd
Dydd Llun - Dydd Sadwrn09:00 - 16:00
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder