
Am
Rydym yn dwlu ar ein bwyd yn nhafarn y King's Head Inn. Mae ein cogyddion yn hynod frwd dros baratoi rhai o'r bwydydd gorau gyda dewis o gynhwysion lleol.
Rydym yn arbenigo mewn gweini prydau Thai cartref ac mae ein seigiau Indiaidd a'n pizzas hefyd yn boblogaidd iawn, ond rydym hefyd yn gweini prydau Prydeinig traddodiadol ar ein bwydlen yn y dafarn, sy'n cynnwys seigiau blasus fel pastai cig eidion a chwrw, pastai cyw iâr, cennin ac asbaragws a physgod mewn cytew a wnaed gyda chwrw Gower Brewery a sglodion cartref! Mae ein pwdinau i gyd yn rhai cartref ac mae gennym fwrdd caws Cymreig sy'n cynnwys siytni a bisgedi cartref.
Mae gan y King's Head Inn ddetholiad mawr o gyrfau go iawn, hyd at 7 ar y tro, ac mae bron pob un ohonynt wedi'i fragu yn ein bragdy. Mae'r bar hefyd yn cynnwys un o'r casgliadau mwyaf o wisgi brag y tu allan i'r Alban (gyda thros 100 ar gael), a chasglwyd pob un yn bersonol o'r Alban heblaw am wisgi lleol Penderyn.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Trwyddedig
Cyfleusterau Darparwyr
- Caniateir anifeiliaid anwes
- Cerddoriaeth fyw
Cyfleusterau Lleoliad
- Cyfleusterau toiled
Dulliau Talu
- Derbynnir Grwpiau
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)