Am
Mwynhewch brydau wedi'u paratoi'n ofalus gyda ffrindiau, teulu neu rywun arbennig.
Rydym yn gwahodd ein gwesteion a'r rheini nad ydynt yn aros yma i fwynhau ein bwyty diarffordd yng Ngŵyr. Gallwch sawru ein prydau blasus sydd wedi'u paratoi â'r cynnyrch lleol mwyaf ffres o'r ansawdd gorau. Caiff llawer o'r perlysiau, y dail salad, y ffrwythau a'r llysiau eu tyfu yn ein Gardd Gegin ein hunain. Rydym yn hapus i baratoi prydau sy'n bodloni pob math o ofyniad dietegol, mae bob amser opsiynau llysieuol ar y fwydlen, ac mae modd paratoi llawer o'r seigiau fel rhai feganaidd neu heb glwten.