Platter

Am

Yng nghwmni Selwyn mae ein hagwedd arloesol wedi bod yn ein harwain at ddarganfyddiadau gwych ers dros 50 o flynyddoedd. Nid ydym erioed wedi edrych yn ôl ers i'n taid Selwyn Jones ddechrau gwerthu ei gocos a'i fara lawr yng nghymoedd de Cymru blynyddoedd yn ôl.

Mae bwyty Selwyn's ar lannau prydferth penrhyn Gŵyr, yn yr union fan lle dechreuodd antur ein teulu am y tro cyntaf. Rydym yn parhau i fod yn fusnes teuluol ac yn parhau i fod yn driw i freuddwyd gwreiddiol Selwyn ar ein taith i ddarganfod bwyd blasus.

Rydym yn casglu ac yn coginio ein cocos Cymreig a'n bara lawr â llaw ac nid ydym yn derbyn unrhyw beth heblaw perffeithrwydd wrth ystyried blasau i dynnu dŵr o'ch dannedd a gweadau gwahanol diddorol.

Wrth i boblogrwydd cynnyrch lleol, cynaliadwy a maethlon dyfu, mae pennod newydd yn antur Selwyn wedi dechrau cael ei ysgrifennu.
Mae caban bwyd môr a chanolfan ymwelwyr Selwyn's ochr yn ochr â'n cyfleuster cynhyrchu.

Mae'r caban yn ddathliad o'n diwydiant amrywiol, lle gallwch ddysgu am fyd ein casglwyr cocos a lafwr lleol o'r dyddiau a fu ac yna teithio trwy'r degawdau hyd at y presennol, gan archwilio sut mae ein diwydiant annwyl wedi datblygu. Mae bob tro aelod o'r teulu neu gasglwr lleol gerllaw sydd â digon o straeon am y môr i'w hadrodd!

Yn amodol ar natur dymhorol a chynaliadwyedd, rydym yn cynhyrchu ac yn prynu ein cynnyrch gan bysgotwyr Cymreig yn bennaf, o'n casglwyr cocos a lafwr ym Mhen-clawdd, cimychiaid a chrancod Sir Benfro, wystrys Atlantic Edge, Sir Benfro, pysgod wedi'u dal ar linyn ym Mae Abertawe a phenrhyn Gŵyr ac amrywiaeth o'r cynnyrch gorau a ddaw yn uniongyrchol o bob cwr o arfordir Prydain. Yn ogystal â'r caban, rydym hefyd yn cynnig bwydlen cinio llawn bwyd môr blasus, o gocos wedi'u ffrio'n ddwfn, tameidiau bara lawr i gorgimychiaid mawr â garlleg gyda'ch hoff ddiod. 
Mae ein cyfoeth o wybodaeth am ein diwydiant, yn ogystal â'r ffydd sydd gennym yn ein pysgotwyr a'n cyflenwyr, yn golygu bod gennym fynediad at y bwyd môr gorau yng Nghymru.

 

Cyfleusterau

Arlwyo

  • Bar
  • Cinio ar gael
  • Gwasanaeth tecawê
  • Trwyddedig

Nodweddion Darparwr

  • Glan y môr

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Parcio ar y safle

Map a Chyfarwyddiadau

Selwyn's Seafoods

Caffi

Marsh Rd, Llanmorlais, Swansea, SA4 3TN

Ffôn: +447805133272

Amseroedd Agor

Tymor (1 Mai 2026 - 30 Medi 2026)
DiwrnodAmseroedd
Dydd Llun - Dydd Gwener09:00 - 15:00
Dydd SadwrnAgor
Dydd SulWedi cau

* Monday to Friday 9-3.
From 1st May - 30th September Monday to Saturday 9-3
Closed Sundays all year.

Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder