Photo of bar exterior

Am

Sessions by Mumbles Brewery yw'r bar cwrw blaenllaw ar gyfer cwmni arobryn Mumbles Brewery.  Gyda dewis o 11 o gyrfau, mae rhywbeth i bawb, y rheini sy’n dwlu ar gwrw casgen, neu'r sawl sy’n mwynhau cwrw golau. Yn ystod y dydd rydym yn gweini coffi Hardlines ac mae gennym Wi-Fi am ddim sy'n golygu ei fod yn lle perffaith i ddod i ymlacio, neu ddal i fyny â gwaith yn y prynhawn. Gyda'r nos, rydym yn far cwrw crefft prysur, sy'n gweini cwrw lleol arobryn. I bobl nad ydynt yn yfed cwrw, mae opsiynau fel seidr mango braf, gwinoedd a gwirodydd ar gael.
Rydym hefyd yn cynnal Awr Hapus rhwng 12:00 a 19:00, lle mae’r cynnig ‘prynu un a chael un am ddim’ yn berthnasol i holl gynnyrch Mumbles Brewery, gyda bargeinion ar fodca, gwin a prosecco hefyd.
Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o adloniant byw ar nos Wener a nos Sadwrn, yn amrywio o fandiau roc a rôl, nosweithiau cerddoriaeth tŷ, nosweithiau disgo a nosweithiau ska. Mae gennym rywbeth at ddant pawb!
Bob nos Lun rydym yn cynnal noson cwrw casgen lle mae peintiau cwrw casgen yn £3 yr un.
Bob nos Fercher rydym yn cynnal noson ddis, lle cewch daflu dis pan fyddwch chi'n prynu rownd, ac os ydych chi'n rholio 6 byddwn yn dyblu'ch rownd am ddim. Ar ôl rholio'r rhif chwech hwnnw, cewch daflu dau ddis arall, ac os yw'r ddau yn chwech mae pawb yn y bar yn cael joch o wirod.
Bob nos Iau rydym yn cynnal ein Cwis Tafarn o 7pm, gyda gwobr ariannol - po fwyaf sy'n cymryd rhan, uchaf y wobr. Yn dilyn y cwis, cynhelir caraoce am 9pm, ac mae pawb sy'n ddigon dewr i ganu’n cael joch o wirod am ddim!
Bob dydd Sul ceir awr hapus o'r funud rydyn ni'n agor ein drysau i'r eiliad rydyn ni'n eu cau.
Rydym hefyd yn cynnig bargeinion hael iawn i fyfyrwyr.
Mae gennym hefyd ystafell achlysuron y gellir ei llogi am ddim gyda lle i 95 o bobl, lleoliad perffaith ar gyfer unrhyw un o'ch anghenion digwyddiad arbennig, o benblwyddi, partïon i famau beichiog, gwleddoedd priodas i bartïon ysgariad.
Ar y cyfan, rydym yn far ac yn lleoliad digwyddiadau yng nghanol dinas Abertawe, gan wasanaethu fel canolfan fywiog, annibynnol sy'n addas ar gyfer digwyddiadau’r dydd a’r nos. Yn ystod y dydd, mae'r lle’n gweithredu fel caffi croesawgar a man gweithio o bell gydag ardal eistedd awyr agored, coffi arbenigol a theisennau, gan drawsnewid gyda'r hwyr yn far cwrw crefft clyd. Cynhelir calendr o ddigwyddiadau amrywiol ar draws lloriau gwahanol y lleoliad - yn amrywio o nosweithiau jazz, roc, a cherddoriaeth tŷ byw i nosweithiau cwis, a nosweithiau ar gyfer myfyrwyr a chodi arian – gyda rhestr o gyrfau crefft lleol ar gynnig ac ystafell achlysuron eang i lawr y grisiau ar gyfer partïon preifat a chynulliadau elusennol.

Cyfleusterau

Arlwyo

  • Bar
  • Gwasanaeth tecawê
  • Trwyddedig

Cyfleusterau Darparwr

  • Ar gael ar gyfer gwleddoedd priodas
  • Derbynnir grwpiau
  • Gardd/patio at ddefnydd y gwesteion

Nodweddion Darparwr

  • Mewn tref/canol dinas

Map a Chyfarwyddiadau

Sessions by Mumbles Brewery

Caffi

38-39 Castle Street, Swansea, SA1 1HZ

Ffôn: 07503 366057

Amseroedd Agor

Tymor (1 Ion 2026 - 31 Rhag 2026)
DiwrnodAmseroedd
Dydd Llun - Dydd Mawrth10:00 - 23:00
Dydd Mercher - Dydd Sadwrn10:00 - 23:30
Dydd Sul10:00 - 23:00
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder