
Am
Mae Takumi Sushi & Noodle Bar yn brofiad bwyta Japaneaidd modern yng nghanol Abertawe ar 82 St Helen's Road. Mae Takumi'n enwog am ei flasau ffres a thraddodiadol a phrydau wedi'u cyflwyno'n bryderth, ac mae'n cynnig bwydlen amrywiol sy'n cynnwys swshi, sashimi, ramen, blychau bento a tempura.
P'un a ydych chi am fwynhau rholiau maki neu fowlen gynnes o udon, mae Takumi'n cyflwyno bwyd Japaneaidd o safon sydd wedi'i baratoi gyda chariad a manylder. Mae'r addurniadau minimalaidd cynnes yn golygu ei fod yn lleoliad perffaith ar gyfer pryd o fwyd hamddenol, noson mas gyda'ch cariad neu weithdy creu swshi difyr.
Mae Takumi hefyd yn cynnig gwasanaeth archebu ar-lein ar gyfer bwyd l i'w gasglu neu i'w ddosbarthu drwy Just Eat neu OrderYOYO. Ar gyfer y rheini sy'n chwilio am flas ar ddiwylliant Japaneaidd, mae Takumi'n cynnig dosbarthiadau coginio lle gall gwesteion ddysgu crefft creu swshi, nwdls a blychau bento.
Dewch i ddarganfod blas Japan yn Abertawe - ewch i www.takumisushi.co.uk neu ffoniwch 01792 448488 i gadw lle neu i drefnu dosbarth heddiw.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Cinio ar gael
- Gwasanaeth tecawê
- Pryd nos ar gael
- Trwyddedig
- Yn darparu ar gyfer llysfwytawyr
Cyfleusterau Darparwyr
- Derbynnir grwpiau
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)