Am
Bar arobryn a bwyty Thai mewn adeilad eiconig. Cynigir dewis mawr o fwyd Thai bob dydd a cherddoriaeth fyw drwy gydol y flwyddyn.
Yn y Bay View, gallwch ymlacio ger y tân yn y lolfa, mwynhau cwrw yn y bar neu werthfawrogi ein gwasanaeth gwych yn y bwyty bob dydd o'r wythnos. Rydym mewn lleoliad arbennig ar hyd y glannau, lle gwych i ddod ar ôl mynd am dro hir ar hyd Bae Abertawe!
Mae cerddoriaeth fyw bob nos Fawrth gyda noson meic agored a gynhelir gan Ross Bullitt bob nos Wener gyda cherddorion gorau Abertawe.
Ymunwch â ni am ginio o ddydd Llun i ddydd Sadwrn - cwrs cyntaf a phrif gwrs am £5.95. Ar ddydd Sul rydym yn cynnig bwffe lle gallwch fwyta llond eich bol gyda gwasanaeth bwrdd am £9.95.
Mae gan y dafarn amrywiaeth gwych o gwrw, gan gynnwys lagers casgen a chyfandirol megis Hoegaarden, Staropramen a Leffe. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o goffi. Yn ogystal, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o winoedd a ddewisir ac a ddarperir gan ein masnachwr gwin lleol hyfryd, ND Johns.
Rydym bellach ar gael ar gyfer partïon, achlysuron a chynadleddau heb dâl hurio, a chydag opsiynau bwffe Thai.
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir cw^n ufudd
Arlwyo
- Gwasanaeth tecawê
- Trwyddedig
Cyfleusterau Darparwyr
- Caniateir anifeiliaid anwes
- Cerddoriaeth fyw
- Gellir llogi'r bwyty i gyd
Cyfleusterau Lleoliad
- Rhywfaint o fynediad anabl
Nodweddion Darparwr
- Glan y môr
- Mewn tref/canol dinas
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael