Am
Mae The Estuary Bar, sydd ar ymyl Moryd Penclawdd, yn cynnig profiad bwyta hamddenol ar lannau penrhyn Gŵyr. Mae'r lleoliad, sy'n edrych dros Foryd Llwchwr, yn cyfuno golygfeydd arbennig gydag awyrgylch cynnes a chroesawgar sy'n golygu ei fod yn lleoliad perffaith ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr sy'n archwilio cefn gwlad cyfagos.
Maent yn gweini brecwast, cinio a tapas o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a chinio dydd Sul traddodiadol ar y penwythnos. Mae The Estuary Bar yn cynnig bwydlen amrywiol sy'n berffaith ar gyfer pob math o achlysuron, o gyfarfodydd hamddenol i ddathliadau arbennig Gall gwesteion hefyd fwynhau te prynhawn, gydag opsiynau amgen ar gael ar gyfer amrywiaeth o ofynion dietegol.
Yng nghefn y lleoliad mae pabell fawr breifat ar gael i'w llogi, sy'n golygu ei fod yn ddewis poblogaidd iawn gyfer dathliadau, partïon a digwyddiadau mewn lleoliad arfordirol unigryw. Os oes gennych ddant melys, mae parlwr GG's Gelato cyfagos yn cynnig pwdinau blasus, felly dyma'r lle perffaith i fynd ar ôl eich cinio neu swper.
P'un a ydych chi'n galw heibio ar ôl mynd am dro ar hyd y foryd, neu'n cynllunio profiad bwyta hamddenol sydd â golygfeydd o un o'r tirweddau mwyaf prydferth yn Abertawe, mae The Estuary Bar yn cynnig blas hamddenol ond cofiadwy ar letygarwch Gŵyr.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Brecwast ar gael
- Cinio ar gael
- Pryd nos ar gael
- Trwyddedig
- Yn darparu ar gyfer llysieuwyr
- Yn gweini te prynhawn
Cyfleusterau Darparwr
- Gardd/patio at ddefnydd y gwesteion
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Ardal chwarae i blant
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)


