Am
Mae The Secret Beach Bar & Kitchen ar lan y môr yn Abertawe ac mae’n cynnig golygfeydd gwych o'r traeth.
Mae'r olygfa'n fonws yn unig gan fod y bwyty'n ymfalchïo yn ei ddyluniad modern a'i fwyd o safon sy'n cael ei goginio'n ffres bob tro.
Yn ystod y dydd gallwch gerdded i mewn, eistedd ar y teras lle ceir golygfeydd o'r môr wrth fwynhau coffi crefftwr a brecwast blasus. Gyda'r hwyr gallwch fwynhau stecen flasus a chael profiad bwyta clyd. Gallwch hefyd gael cludfwyd cyflym ar gyfer eich tro o uned gludfwyd The Secret. Mae croeso i'r teulu cyfan, gan gynnwys eich cŵn annwyl.
Caiff y bwydlenni eu creu gan ein pen-cogyddion talentog, a chaiff yr holl brydau eu paratoi'n ffres yn ddyddiol ac mae'r holl gynnyrch yn lleol. Mae'r fwydlen yn cynnwys dewis o fwydydd Prydeinig modern a seigiau Cymreig go iawn.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Cinio ar gael
- Darperir ar gyfer gofynion dietegol arbennig
- Gwasanaeth tecawê
- Outdoor Eating
- Pryd nos ar gael
- Trwyddedig
Cyfleusterau Lleoliad
- Cyfleusterau toiled
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)