Am
Adlewyrchir creadigrwydd cyson ein cogyddion yn ein bwydlenni sy'n newid yn ddyddiol, ac rydym yn defnyddio'r cynnyrch lleol a thymhorol gorau wrth ddatblygu ein seigiau syfrdanol. Mae’r broses yn dechrau yn y gegin ac yn cael ei chyflawni wrth y bwrdd: cydraddol, hwyliog a hygyrch i bawb. Angerddol a hael ei hysbryd.
Hiraeth: term sy'n unigryw i Gymru a diwylliant Cymru, tynfa a deimlir yn eich calon sy'n cyfleu ymdeimlad dwfn o berthyn, yr awydd i ddychwelyd i'ch man geni, i ddod adref. Mae bwyty The Shed a'r Pen-cogydd Gweithredol Jonathan Woolway yn falch o ddweud bod Abertawe'n gartref iddynt.
Mae Abertawe, dinas y glannau, sy'n gorwedd ar hyd ehangder Bae Abertawe, rhwng penrhyn Gŵyr a Bannau Brycheinig, o fewn pellter carreg i gymoedd ffrwythlon, gwastatiroedd arfordirol a thir ffermio Gorllewin Cymru, yng nghanol pantri natur. Mae cynnyrch tymhorol o'r tir, y môr a phorfeydd ar flaenau ein bysedd.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Trwyddedig
Cyfleusterau Lleoliad
- Cyfleusterau toiled
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
- Toiled ar gyfer ymwelwyr anabl
Plant a Babanod
- Cyfleusterau newid babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael