Am
Agorwyd y siop goffi ym 1996 gyda phedwar bwrdd yn unig, tegell bach gwyn, un rysáit ar gyfer teisen foron a brwdfrydedd.
Roedd pobl yn dod o bob cwr i fwynhau ein teisennau cartref a'n coffi gwych.
Yn hir cyn i Starbucks gyrraedd y DU, roedd y siop goffi fach hon yn gweini coffi ym mhenrhyn Gŵyr. Roedd pobl yn ein cwestiynu drwy'r amser, yn holi a fyddai'r siop goffi yn denu cwsmeriaid. Ond 22 o flynyddoedd yn ddiweddarach, rydym yma o hyd. Rydym wedi ailadeiladu'r siop goffi unwaith a'i hestyn ddwywaith, felly rydym yn tyfu, hefyd!
Gallwch ddod o hyd i'r siop goffi mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol ddynodedig, a gallwch fwynhau paned y tu fas neu dan do (gan ddibynnu ar y tywydd, wrth gwrs!), rhwng 9am a 7pm (9pm o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn).
P'un a oes arnoch awydd omled wyau maes i frecwast, cinio gwerinwr gyda ham a chaws Cymreig neu ddarn o'n teisen foron enwog a phaned o goffi fel te prynhawn, mae ein bwydlen yn cynnig rhywbeth i bawb.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Gwasanaeth tecawê
- Trwyddedig
Cyfleusterau Darparwyr
- Caniateir anifeiliaid anwes
Cyfleusterau Lleoliad
- Cyfleusterau toiled
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
- Toiled ar gyfer ymwelwyr anabl
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Cyfleusterau newid babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael