Am
Caffi, parlwr hufen iâ a bwyty trwyddedig a reolir gan deulu yw Verdi’s gydag enw da am flas a safon Eidalaidd go iawn.
Rydym ar lan y môr ym mhentref pysgota Fictoraidd y Mwmbwls, Abertawe – man geni Dylan Thomas.
Mae gennym seddi awyr agored a dan do ar gyfer hyd at 400 o bobl, gyda phob sedd yn mwynhau golygfeydd panoramig anhygoel ar draws Bae Abertawe.
Rydym yn ymfalchïo yn ein hamrywiaeth o goffis Eidalaidd, ac nid yw’r gydnabyddiaeth rydym wedi’i hennill wedi dod ar hap a damwain. Mae crefftwaith y gwneuthurwyr coffi Eidalaidd yn gelfyddyd gain a medrus sy’n cymryd blynyddoedd i’w meistroli. DYMA’R lle am cappuccino, espresso, latte macchiato etc!
Caiff hyd at 30 blas gwahanol o hufen iâ Eidalaidd hufen ffres arobryn eu creu bob dydd gan ddefnyddio’r llaeth a’r hufen gorau o’r llaethdai lleol.
Mae ein holl fara, cacennau, sgonau, pasteiod, semifreddi a phwdinau’n rhai cartref hefyd.
Mae’r amrywiaeth llawn o flasau hefyd yn cael eu gweini yn ein hadran gludfwyd – mae cynwysyddion thermol sy’n cadw tymheredd rhew am 4 i 6 awr ar gael i’r rhai sy’n dod o bell.
Mae bwyty Verdi’s yn enwog am greu pizza a phasta cartref, y mae llawer ohonynt yn ryseitiau teulu traddodiadol. Mae’r fwydlen hefyd yn cynnwys detholiad eang o brydau llysfwytäol.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Gwasanaeth tecawê
- Trwyddedig
Cyfleusterau Lleoliad
- Cyfleusterau toiled
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
- Toiled ar gyfer ymwelwyr anabl
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)