Swansea Bay without a Car prom with cyclists

Am

Anturiaethau ym Mae Abertawe heb gar!

BayTrans yw'r brif wefan ar gyfer gwybodaeth am gludiant cyhoeddus i ymwelwyr â Bae Abertawe. Ewch i'n gwefan, www.swanseabaywithoutacar.com , a chewch wybodaeth yn ddi-oed pan fyddwch yn dod i'r ardal. Mae hefyd yn rhoi arweiniad i chi ar y gwasanaeth cludiant gorau i unrhyw le rydych am fynd iddo yn Abertawe, Penrhyn Gŵyr, y Mwmbwls, Castell-nedd Port Talbot a'r cymoedd.
Rydym yn falch o allu dweud wrthych pa mor dda yw'r cysylltiadau rhwng Bae Abertawe â gweddill y DU a thramor. Gyda llawer o drenau a choetsis uniongyrchol, a modd teithio o lawer mwy o leoedd gydag un gyfnewidfa gyfleus yn unig, mae cyrraedd yma'n hawdd.
Mae'r bysus lleol ar yr holl brif lwybrau'n niferus ac yn rhai o safon ac mae rhai ar gael sy'n cysylltu ag ardaloedd gwledig.
Eleni, ym 'Mlwyddyn Chwedlau' Croeso Cymru, byddwn yn defnyddio hyn ynghyd â 'Diwylliant' a 'Natur' fel rhesymau dros hyrwyddo teithio i benrhyn Gŵyr a'r cymoedd lleol.
Y ffordd orau o gyrraedd Llwybr Arfordir trawiadol Gŵyr yw gan ddefnyddio bysus lleol; maent yn cysylltu â'r llwybr mewn sawl man ar benrhyn Gŵyr ac yn caniatáu teithiau cerdded llinol. Mae bysus yn addas i gyrraedd y rhan fwyaf o weithgareddau ar benrhyn Gŵyr, a cheir rhwydwaith cynhwysfawr ohonynt.
Disgwylir i wasanaethau'r Sunday Explorer o Abertawe weithredu ar benwythnosau'r Pasg a Chalan Mai, yna bob dydd Sul a gŵyl gyhoeddus o benwythnos olaf y gwanwyn tan 1 Hydref, oherwydd y galw gan y cyhoedd.

Mae'r cymoedd yn cynnig rhai teithiau cerdded trawiadol drwy ardaloedd llawn hanes diwydiannol, y mae digonedd o chwedlau'n gysylltiedig â hwy, mewn amgylchoedd naturiol bendigedig sy'n cynnwys rhaeadrau godidog. Maent rhyw awr yn unig o Abertawe ar fws cyflym Cymru Clipper.

Mae Castell-nedd, Port Talbot a’r cymoedd yn ardal Bae Abertawe yn cynnig cyfoeth o lwybrau cerdded, rhaeadrau a rhyfeddodau cudd. Ac nid oes angen car arnoch i fwynhau hyn oll! http://traveladventures.wales/cy/hafan/

Map a Chyfarwyddiadau

Swansea Bay without a Car

General & Tourist Information (video)

7 Pine Tree Court, Sketty, Swansea, SA2 9AF

Ffôn: 01792205071

Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder