Am

Stori Ysbrydion ar gyfer y Nadolig

Mae'r cwmni arobryn Dyad Productions (Lady Susan, A Room of One’s Own, I, Elizabeth, Austen’s Women, Female Gothic) sydd wedi bod ar daith gyda’u sioe Nadoligaidd, Christmas Gothic a gwerthu pob tocyn ers 2015, nawr yn tasgu eu hud a lledrith ar stori ysbrydion glasurol a bythol berthnasol Dickens.

Mae'n Noswyl Nadolig ac mae'r dyngasäwr cybyddlyd, Ebenezer Scrooge, ar fin cael noson fwganllyd na wnaiff byth ei hanghofio. Mae chwedl fytholwyrdd Nadoligaidd Dickens o waredigaeth a thosturi'n cael ei llwyfannu mewn arddull sioe undyn unigryw Dyad.

 

Dewch yn agos am noson o uchelwydd a miri yng nghwmni Marley, Fezziwig a Cratchit et al i ddarganfod gwir ystyr y Nadolig: tynerwch am y gorffennol, dewrder am y presennol a gobaith am y dyfodol.

Mae Ebenezer yn byw ynom i gyd, ac mae'r chwedl fendigedig hon yn ein hatgoffa na ddylem byth ildio'r i'r Scrooge mewnol

Wedi'i hysbrydoli gan berfformiadau gwreiddiol Dickens o'i waith ei hun a chan ddefnyddio adroddwr gwych y nofel i ddod â'r stori'n fyw, caiff y sioe undyn hon ei pherfformio gan Andrew Margerison (Fatherland a Macbeth gan Frantic Assembly), a'i chyfarwyddo gan Rebecca Vaughan.

‘Os nad ydych chi wedi gweld gwaith Dyad Productions o'r blaen, rhaid i chi’ British Theatre Guide

Enillwyr Corff Cronnol o Waith THREE WEEKS, 2018

★★★★★ ’Addasiad deallus, perfformiad hyfryd’... 'cyfareddol’ , British Theatre Guide
★★★★★ ’Wedi’i ail-ddychmygu’n gyfoethog, yn gywrain o deimladwy', Edinburgh Guide
★★★★★ 'Perfformiad aruthrol, hyderus, cyfoethog' , The Scotsman
★★★★★ ’Rhagorol, gafaelgar byth llai na magnetig’, Three Weeks

Argymhelliad oedran 12+