Am

Yn syth o Neuadd Frenhinol Albert, mae A Country Night in Nashville yn ail-greu golygfa honky-tonk brysur yng nghanol Nashville, gan gyfleu egni ac awyrgylch noson yng nghartref canu gwlad yn berffaith.

Paratowch i gael eich tywys ar daith gerddorol drwy hanes canu gwlad, a chewch gyfle i glywed caneuon gan enwogion canu gwlad y gorffennol a'r presennol. Caiff caneuon poblogaidd gan Johnny Cash ac Alan Jackson, Dolly a The Chicks, Willie Nelson a Kacey Musgraves eu perfformio gan Dominic Halpin a'r Hurricanes.

Gallwch ddisgwyl clywed caneuon fel Ring of Fire, Crazy, Follow Your Arrow, It's Five O'Clock Somewhere, Need You Know, 9-5 a The Gambler a llawer mwy. Peidiwch â cholli'r dathliad anhygoel hwn o ganu gwlad.