Am
Byddwch yn barod am noson drydanol o gerddoriaeth a hud yn Sky Full of Stars, y sioe deyrnged orau i Coldplay! Yn ogystal ag efelychu sain ac ysbryd un o fandiau mwyaf y byd, mae'r perfformiad byw penigamp hwn hefyd yn eich gwneud chi'n rhan o'r sioe. Gyda bandiau arddwrn LED sy'n goleuo'r gynulleidfa, bydd egni'r gerddoriaeth yn eich amgylchynu mewn ffordd gwbl newydd!
P'un a ydych wedi cefnogi Coldplay ers y dechrau neu'n chwilio am noson mas fythgofiadwy, mae Sky Full of Stars yn darparu perfformiadau disglair, effeithiau gweledol trawiadol ac awyrgylch nodedig sydd wir yn dod â chaneuon gorau Coldplay yn fyw. O'r anthem 'Viva La Vida' i'r gân galonogol 'A Sky Full of Stars', yn ogystal â'r holl ganeuon rydych chi'n dwlu arnynt, gan gynnwys 'Clocks', 'Yellow', 'Paradise', a'Hymn for the Weekend'.
Felly, prynwch eich tocynnau, dewch â'ch ffrindiau a byddwch yn barod am noson o gerddoriaeth, egni ac eiliadau na fyddwch chi'n eu hanghofio.