Am
Lovely Town ‘25 - Access All Areas
Mae'n destun cyffro i The Bunkhouse gyflwyno digwyddiad cyntaf Lovely Town ‘25 - Access All Areas. Dyma ddigwyddiad rhwydweithio i'r diwydiant cerddoriaeth ar gyfer merched, menywod a rhyweddau sydd ar yr ymylon drwy gefnogaeth ein ffrindiau da o @mioe_creativeproductions.
Cynhelir y digwyddiad ar y dydd Mercher cyn Lovely Town er mwyn hyrwyddo cynhwysiant yn niwydiant cerddoriaeth Cymru. Dewch i ddysgu gan fenywod sy'n gweithio ym myd cerddoriaeth ac achub ar gyfleoedd i rannu eich profiadau a gofyn eich cwestiynau. Cyhoeddir siaradwyr gwadd dros yr wythnosau nesaf, ond gwnewch yn siŵr eich bod
yn ymateb (am ddim!) nawr. Ariennir gan Brosiect Cydweithredol Menywod cwmni buddiant cymunedol Mioe