Am

Mae 'Across the Universe' yn ddathliad o "flynyddoedd stiwdio" The Beatles rhwng 1966 a 1970. Mae'r sioe unigryw hon, sy'n cynnwys band a cherddorfa fyw, yn un ni ddylai unrhyw un sy'n dwlu ar The Beatles ei cholli. Mae'r gerddoriaeth a recordiwyd gan The Beatles rhwng 1966 a 1970 yn cynrychioli rhai o'r camau cerddorol mwyaf arloesol yn hanes cerddoriaeth, o ran dyfeisgarwch wrth gyfansoddi caneuon, technegau recordio a sefydlu genres cerddoriaeth gwahanol ym myd cerddoriaeth bop.

Nad oedd gan The Beatles fwriad i berfformio nifer o'r recordiadau blaengar hyn yn fyw. Ond, nawr, i dalu teyrnged i'r cyfnod creadigol a chyffrous hwn yng ngyrfa The Beatles, mae 'Across the Universe' yn cyflwyno'r recordiadau hyn yn fyw gyda manylder a chywirdeb arbennig. Dim wigiau, dim gwisgoedd.

Bwriad 'Across the Universe' yw dilysrwydd cerddorol, a chaiff y perfformwyr eu cefnogi gan offeryniaeth o'r radd flaenaf gan berfformwyr llinynnau a phres byw.