Am

Dewch i ddarganfod sut mae byd natur a phensaernïaeth yn cyfuno ym mhroject Biophilic Living Prifysgol Abertawe. Wedi'i ysbrydoli gan yr adeilad arloesol sy'n disodli hen siop Woolworths, mae'r gweithdy hwn yn archwilio sut mae nodweddion fel pennau tai gwyrdd, ffermydd trefol ac acwaponeg yn cefnogi byw trefol cynaliadwy. Drwy weithgareddau ymarferol, bydd cyfranogwyr yn dysgu sut gall integreiddio planhigion, dŵr ac elfennau naturiol mewn dyluniadau greu cymunedau iachach a mwy cydnerth, gan fynd i'r afael â heriau amgylcheddol wrth feithrin cytgord rhwng byd natur a bywyd mewn dinas.