Am

Aidan Thorne a Jason Ball

Dydd Sadwrn 5 Medi, 1pm

Ystafell y Cefnfor, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae Jason ac Aidan wedi cydweithio mewn amrywiaeth o leoliadau cerddorol ers dros 15 mlynedd, a'r llynedd rhyddhaont eu halbwm cyntaf ar y cyd, ‘Expanding upon Tradition: Ehangu’r Traddodiad’, ar Cambrian Records.

Yn y gyngerdd arbennig hon byddant yn perfformio'u cerddoriaeth, sy'n ailddychmygu alawon gwerin Cymru drwy gymysgedd o fyrfyfyrio, jazz a minimaliaeth, i gyd wedi'u gosod mewn byd sain atmosfferig, amgylchynol.

  • Aidan Thorne – Bas dwbl/peiriant awyrgylch
  • Jason Ball – Gitarau/peiriant awyrgylch

"Roedd nodiadau rhaeadrol Aidan Thorne ar y bas dwbl yn ddigon i beri i chi oedi gan wneud i chi ddal eich anadl."

Nation Cymru

"Unawdydd amryddawn a chreadigol a chanddo arddull gitâr jazz cyfoes a nodweddiadol" Ian Mann.

Mae'r perfformiad hwn yn rhan o Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2026. Gallwch weld y rhaglen lawn yn https://www.croesobaeabertawe.com/gwyl-jazz-ryngwladol-abertawe/

 

Band Arddwrn Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe - Archebwch ar gyfer pob un o'r deg sioe gyda thocyn am bris untro o £175 gyda'n gostyngiad aml-docyn (arbediad o £48 o'i gymharu â thocynnau unigol). Tocynnau'n brin. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut i archebu yma!