Am

Rydym yn falch iawn i allu croesawu Al Lewis i'r Oriel Mission, Abertawe fel rhan o daith unigryw mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru!

Gyda 2025 yn dynodi 200 mlynedd ers sefydlu’r rheilffordd fodern; bydd Al nid yn unig yn ymweld â rhannau newydd o’r wlad, ond hefyd yn ymgymryd â dull fwy amgylcheddol a chymdeithasol o deithio, gan ddangos sut y gall cerddorion wneud eu rhan i helpu ni i leihau ein hôl troed carbon.