Am
Sioe Newydd Sbon
Yn dilyn taith ar draws y DU ag 138 dyddiad y gwerthwyd pob tocyn amdani, bydd The Guv yn ôl, gyda sioe gomedi fyw newydd sbon ar gyfer 2026.
Rhaid cyfaddef bod y byd yn wallgof, ond mae gobaith wrth i hoff dafarnwr y byd ddychwelyd gyda'i farn a synnwyr cyffredin unigryw mewn perthynas â digwyddiadau cyfredol, gan gynnig y gwirionedd (a pheint i'r dynion/gwydraid o win gwyn i'r menywod) yn ystod y cyfnod gwyllt a phryderus hwn.
Y cyfan sydd ei angen arnoch yw The Guv, gyda pheint ffres yn ei law, digon o chwerthin a chariad yn ei galon.
I'r bobl ddewr, anturus a gwyllt sydd am fod yng nghanol y cyffro yn y 'Parth Sblasio', archebwch eich tocynnau'n gyflym a gwisgwch y ponsios!