Am

Dydd Gwener 16 Hydref 2026 - Dydd Sul 3 Ionawr 2027
12:00 am

Glynn Vivian gyda’r Hwyr: 15 Hydref, 2026, 5:30 pm – 8:00 pm

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch iawn o gyflwyno arddangosfa arbennig o weithiau gan Alfred Janes (1911-1999), sy’n nodi lansiad llyfr newydd, sef Alfred Janes, Maker of Pictures gan Dr Ceri Thomas.

Mae’r arddangosfa sy’n cynnwys celfweithiau o Gasgliad Parhaol yr Oriel, yn dwyn ynghyd ddetholiad o rai o weithiau mwyaf gwerthfawr Oriel Gelf Glynn Vivian gan un o artistiaid pwysicaf ac arloesol Abertawe, ynghyd â benthyciadau o gasgliadau preifat, gan gynnwys effemera a ffotograffau. Mae’r arddangosfa’n cynnig cyfle i ymwelwyr ailddarganfod cyfraniad rhyfeddol Janes i gelf Brydeinig yr ugeinfed ganrif ac archwilio ehangder gyrfa a rychwantodd dros chwe degawd.

Disgrifiodd Alfred Janes ei hun yn gofiadwy fel “gwneuthurwr lluniau” ac nid fel arlunydd. Trwy gydol ei yrfa hir a nodedig, gweithiodd ar draws ystod eang o arddulliau a phynciau, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a chan arbrofi’n barhaus, gan greu corff o waith unigryw a gwreiddiol.

Ganed Alfred Janes yn Abertawe ym 1911, a chafodd ei gydnabod fel talent eithriadol o oedran ifanc, gan astudio yn Ysgol Gelf Abertawe cyn symud i Ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain. Roedd yn aelod o griw dylanwadol y “Kardomah Gang” ac roedd yn cyfrif Dylan Thomas, Vernon Watkins a Daniel Jones ymysg ei gyfoedion.

Er i’r Ail Ryfel Byd dorri ar draws ei yrfa gynnar, parhaodd Janes i ddatblygu ymarfer artistig arloesol a oedd yn cynnwys portreadau, bywyd llonydd, collage a gwaith cerfwedd. O 1963 tan ei farwolaeth ym 1999, bu’n byw ac yn gweithio yn Llundain, gan addysgu yng Ngholeg Celf Croydon ochr yn ochr ag artistiaid fel Bridget Riley.

Mae’r cyhoeddiad gan Dr Ceri Thomas sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa hon yn cynnig arsylwadau newydd ar fywyd, gwaith a dylanwad Janes, gan daflu goleuni newydd ar artist y mae ei gyfraniad i gelf Brydeinig fodern yn parhau’n berthnasol, ac fe’i cyhoeddir gan Parthian Books ar 20 Tachwedd 2026.

Mae’r arddangosfa hon yn dathlu cysylltiad parhaol Alfred Janes ag Abertawe ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd parhaus ei waith yng Nghasgliad Parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.