Am

Hummadruz: Theatr Uwchfioled Cymru

Sioe ddieiriau unigryw i gynulleidfaoedd o bob oed, iaith a gallu – wedi’i pherfformio’n gyfan gwbl i gyfeiliant cerddoriaeth glasurol newydd o Gymru. Dwy stori ryfeddol yn dod i’r amlwg o dan olau uwchfioled. Mae UFO yn archwilio ymweliadau â Chymru gan ofodwyr hynafol, o ddeinasoriaid i Ynys Enlli. Mae When the Dragons Came Back yn adrodd hanes carnifal sy’n cael ei greu yn y cymoedd gan fachgen â chanlyniadau pellgyrhaeddol. Yn cynnwys perfformiadau syrcas, pypedwaith, lledrithiau, Makaton a thereminau, mae’r profiad gorfoleddus a seicedelig hwn yn addas i bob oedran.